Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 9:28-62

Luc 9:28-62 BNET

Tuag wythnos ar ôl iddo ddweud hyn, aeth Iesu i weddïo i ben mynydd, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e. Wrth iddo weddïo newidiodd ei olwg, a throdd ei ddillad yn wyn llachar. A dyma nhw’n gweld dau ddyn, Moses ac Elias, yn sgwrsio gyda Iesu. Roedd hi’n olygfa anhygoel, ac roedden nhw’n siarad am y ffordd roedd Iesu’n mynd i adael y byd, hynny ydy beth oedd ar fin digwydd iddo yn Jerwsalem. Roedd Pedr a’r lleill wedi bod yn teimlo’n gysglyd iawn, ond dyma nhw’n deffro go iawn pan welon nhw ysblander Iesu a’r ddau ddyn yn sefyll gydag e. Pan oedd Moses ac Elias ar fin gadael, dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Feistr, mae’n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches – un i ti, un i Moses ac un i Elias.” (Doedd ganddo ddim syniad wir beth roedd yn ei ddweud!) Tra oedd yn dweud hyn, dyma gwmwl yn dod i lawr a chau o’u cwmpas. Roedden nhw wedi dychryn wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r cwmwl. A dyma lais yn dod o’r cwmwl a dweud, “Fy Mab i ydy hwn – yr un dw i wedi’i ddewis. Gwrandwch arno!” Ar ôl i’r llais ddweud hyn, roedd Iesu ar ei ben ei hun unwaith eto. Dyma’r lleill yn cadw’n dawel am y peth – ddwedon nhw ddim wrth neb bryd hynny am beth roedden nhw wedi’i weld. Y diwrnod wedyn, pan ddaethon nhw i lawr o’r mynydd, daeth tyrfa fawr i’w gyfarfod. Dyma ryw ddyn yn y dyrfa yn gweiddi ar Iesu, “Athro, dw i’n crefu arnat ti i edrych ar fy mab i – dyma fy unig blentyn i! Mae yna ysbryd yn gafael ynddo’n aml, ac yn sydyn mae’n sgrechian; wedyn mae’r ysbryd yn gwneud iddo gael ffit nes ei fod yn glafoerio. Dydy’r ysbryd prin yn gadael llonydd iddo! Mae’n ei ddinistrio! Rôn i’n crefu ar dy ddisgyblion i’w fwrw allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.” “Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i’n mynd i aros gyda chi a’ch dioddef chi? Tyrd â dy fab yma.” Wrth i’r bachgen ddod ato dyma’r cythraul yn ei fwrw ar lawr mewn ffit epileptig. Ond dyma Iesu’n ceryddu’r ysbryd drwg, iacháu’r bachgen a’i roi yn ôl i’w dad. Roedd pawb wedi’u syfrdanu wrth weld nerth Duw ar waith. Tra oedd pawb wrthi’n rhyfeddu at yr holl bethau roedd Iesu’n eu gwneud, dwedodd wrth ei ddisgyblion, “Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio fy mod i wedi dweud hyn: Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu.” Doedd gan y disgyblion ddim syniad am beth roedd e’n sôn. Roedd yn ddirgelwch iddyn nhw, ac roedden nhw’n methu’n lân a deall beth roedd yn ei olygu, ond roedd arnyn nhw ofn gofyn iddo am y peth. Dyma’r disgyblion yn dechrau dadlau pwy ohonyn nhw oedd y pwysica. Roedd Iesu’n gwybod beth oedd yn mynd drwy eu meddyliau, a gosododd blentyn bach i sefyll wrth ei ymyl. Yna meddai wrthyn nhw, “Mae pwy bynnag sy’n rhoi croeso i’r plentyn bach yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy’n rhoi croeso i mi yn croesawu’r Un sydd wedi fy anfon i. Mae’r un lleia pwysig ohonoch chi yn bwysig dros ben.” “Feistr,” meddai Ioan, “gwelon ni rywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni’n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o’n criw ni.” “Peidiwch gwneud hynny,” meddai Iesu. “Os ydy rhywun ddim yn eich erbyn chi, mae o’ch plaid chi.” Dyma Iesu’n cychwyn ar y daith i Jerwsalem, gan fod yr amser yn agosáu iddo fynd yn ôl i’r nefoedd. Anfonodd negeswyr o’i flaen, a dyma nhw’n mynd i un o bentrefi Samaria i baratoi ar ei gyfer; ond dyma’r bobl yno yn gwrthod rhoi croeso iddo am ei fod ar ei ffordd i Jerwsalem. Pan glywodd Iago ac Ioan am hyn, dyma nhw’n dweud wrth Iesu, “Arglwydd, wyt ti am i ni alw tân i lawr o’r nefoedd i’w dinistrio nhw?” A dyma Iesu’n troi atyn nhw a’u ceryddu nhw am ddweud y fath beth. A dyma nhw’n mynd yn eu blaenau i bentref arall. Wrth iddyn nhw gerdded ar hyd y ffordd, dyma rywun yn dweud wrtho, “Dw i’n fodlon dy ddilyn di lle bynnag fyddi di’n mynd!” Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.” Dwedodd Iesu wrth rywun arall, “Tyrd, dilyn fi.” Ond dyma’r dyn yn dweud, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.” Ond ateb Iesu oedd, “Gad i’r rhai sy’n farw eu hunain gladdu eu meirw; dy waith di ydy cyhoeddi fod Duw yn dod i deyrnasu.” Dwedodd rhywun arall wedyn, “Gwna i dy ddilyn di, Arglwydd; ond gad i mi fynd i ffarwelio â’m teulu gyntaf.” Atebodd Iesu, “Dydy’r sawl sy’n gafael yn yr aradr ac yn edrych yn ôl ddim ffit i wasanaethu’r Duw sy’n teyrnasu.”

Fideo ar gyfer Luc 9:28-62