Luc 7:41-43
Luc 7:41-43 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Roedd dau o bobl mewn dyled i fenthyciwr arian. Pum can denariws oedd dyled un, a hanner can denariws oedd dyled y llall. Ond pan oedd y naill a’r llall yn methu ei dalu’n ôl, dyma’r benthyciwr yn canslo dyled y ddau! Felly, pa un o’r ddau wyt ti’n meddwl fydd yn ei garu fwyaf?” “Mae’n debyg mai’r un gafodd y ddyled fwyaf wedi’i chanslo,” meddai Simon. “Rwyt ti’n iawn,” meddai Iesu.
Luc 7:41-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Yr oedd gan fenthyciwr arian ddau ddyledwr,” meddai Iesu. “Pum cant o ddarnau arian oedd dyled un, a hanner cant oedd ar y llall. Gan nad oeddent yn gallu talu'n ôl, diddymodd y benthyciwr eu dyled i'r ddau. P'run ohonynt, gan hynny, fydd yn ei garu fwyaf?” Atebodd Simon, “Fe dybiwn i mai'r un y diddymwyd y ddyled fwyaf iddo.” “Bernaist yn gywir,” meddai ef wrtho.
Luc 7:41-43 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dau ddyledwr oedd i’r un echwynnwr: y naill oedd arno bum can ceiniog o ddyled, a’r llall ddeg a deugain. A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o’r rhai hyn a’i câr ef yn fwyaf? A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Yr wyf fi’n tybied mai’r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Yntau a ddywedodd wrtho, Uniawn y bernaist.