Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 7

7
Iacháu Gwas Canwriad
Mth. 8:5–13; In. 4:43–54
1Wedi iddo orffen llefaru'r holl eiriau hyn wrth y bobl, aeth i mewn i Gapernaum. 2Yr oedd canwriad ac iddo was, gwerthfawr yn ei olwg, a oedd yn glaf ac ar fin marw. 3Pan glywodd y canwriad am Iesu anfonodd ato henuriaid o Iddewon, i ofyn iddo ddod ac achub bywyd ei was. 4Daethant hwy at Iesu ac ymbil yn daer arno: “Y mae'n haeddu iti wneud hyn drosto, 5oherwydd y mae'n caru ein cenedl, ac ef a adeiladodd ein synagog i ni.” 6Pan oedd Iesu ar ei ffordd gyda hwy ac eisoes heb fod ymhell o'r tŷ, anfonodd y canwriad rai o'i gyfeillion i ddweud wrtho, “Paid â thrafferthu, syr, oherwydd nid wyf yn deilwng i ti ddod dan fy nho. 7Am hynny bernais nad oeddwn i fy hun yn deilwng i ddod atat; ond dywed air, a chaffed#7:7 Yn ôl darlleniad arall, a chaiff. fy ngwas ei iacháu. 8Oherwydd dyn sy'n cael ei osod dan awdurdod wyf finnau, a chennyf filwyr danaf; byddaf yn dweud wrth hwn, ‘Dos’, ac fe â, ac wrth un arall, ‘Tyrd’, ac fe ddaw, ac wrth fy ngwas, ‘Gwna hyn’, ac fe'i gwna.” 9Pan glywodd Iesu hyn fe ryfeddodd at y dyn, a chan droi at y dyrfa oedd yn ei ddilyn meddai, “Rwy'n dweud wrthych, ni chefais hyd yn oed yn Israel ffydd mor fawr.” 10Ac wedi i'r rhai a anfonwyd ddychwelyd i'r tŷ, cawsant y gwas yn holliach.
Cyfodi Mab y Weddw yn Nain
11Yn fuan wedyn aeth Iesu i dref a elwir Nain. Gydag ef ar y daith yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr. 12Pan gyrhaeddodd yn agos at borth y dref, dyma gynhebrwng yn dod allan; unig fab ei fam oedd y marw, a hithau'n wraig weddw. Yr oedd tyrfa niferus o'r dref gyda hi. 13Pan welodd yr Arglwydd hi, tosturiodd wrthi a dweud, “Paid ag wylo.” 14Yna aeth ymlaen a chyffwrdd â'r elor. Safodd y cludwyr, ac meddai ef, “Fy machgen, rwy'n dweud wrthyt, cod.” 15Cododd y marw ar ei eistedd a dechrau siarad, a rhoes Iesu ef i'w fam. 16Cydiodd ofn ym mhawb a dechreusant ogoneddu Duw, gan ddweud, “Y mae proffwyd mawr wedi codi yn ein plith”, ac, “Y mae Duw wedi ymweld â'i bobl.” 17Ac aeth yr hanes hwn amdano drwy Jwdea gyfan a'r holl gymdogaeth.
Negesyddion Ioan Fedyddiwr
Mth. 11:2–19
18Rhoes disgyblion Ioan adroddiad iddo ynglŷn â hyn oll. 19Galwodd yntau ddau o'i ddisgyblion ato a'u hanfon at yr Arglwydd, gan ofyn, “Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?” 20Daeth y ddau ato a dweud, “Anfonodd Ioan Fedyddiwr ni atat, gan ofyn, ‘Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?’ ” 21Y pryd hwnnw iachaodd ef lawer o afael afiechydon a phlâu ac ysbrydion drwg, a rhoes eu golwg i lawer o ddeillion. 22Ac atebodd ef hwy, “Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych wedi ei weld ac wedi ei glywed. Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn ôl, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da. 23Gwyn ei fyd y sawl na ddaw cwymp iddo o'm hachos i.” 24Wedi i negesyddion Ioan ymadael, dechreuodd Iesu sôn am Ioan wrth y tyrfaoedd. “Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt? 25Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai rhywun wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Ym mhlasau brenhinoedd y mae gweld dynion moethus mewn gwisgoedd ysblennydd. 26Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai proffwyd? Ie, meddaf wrthych, a mwy na phroffwyd. 27Dyma'r un y mae'n ysgrifenedig amdano:
“ ‘Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen,
i baratoi'r ffordd ar dy gyfer.’
28“Rwy'n dweud wrthych, nid oes ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas Dduw yn fwy nag ef.” 29(A chydnabod cyfiawnder Duw a wnaeth yr holl bobl a glywodd, a'r casglwyr trethi hefyd, oherwydd yr oeddent wedi derbyn bedydd Ioan; 30ond troi heibio fwriad Duw ar eu cyfer a wnaeth y Phariseaid ac athrawon y Gyfraith, oherwydd yr oeddent hwy wedi gwrthod cael eu bedyddio ganddo.)
31“Â phwy gan hynny y cymharaf bobl y genhedlaeth hon? I bwy y maent yn debyg? 32Y maent yn debyg i'r plant sy'n eistedd yn y farchnad ac yn galw ar ei gilydd fel hyn:
“ ‘Canasom ffliwt i chwi, ac ni ddawnsiasoch;
canasom alarnad, ac nid wylasoch.’
33“Oherwydd y mae Ioan Fedyddiwr wedi dod, un nad yw'n bwyta bara nac yn yfed gwin, ac yr ydych yn dweud, ‘Y mae cythraul ynddo.’ 34Y mae Mab y Dyn wedi dod, un sy'n bwyta ac yn yfed, ac yr ydych yn dweud, ‘Dyma feddwyn glwth, cyfaill i gasglwyr trethi a phechaduriaid.’ 35Ac eto profir gan bawb o'i phlant fod doethineb Duw yn gywir.”
Maddau i Wraig Bechadurus
36Gwahoddodd un o'r Phariseaid Iesu i bryd o fwyd gydag ef. Aeth ef i dŷ'r Pharisead a chymryd ei le wrth y bwrdd. 37A dyma wraig o'r dref oedd yn bechadures yn dod i wybod ei fod wrth bryd bwyd yn nhŷ'r Pharisead. Daeth â ffiol alabastr o ennaint, 38a sefyll y tu ôl iddo wrth ei draed gan wylo. Yna dechreuodd wlychu ei draed â'i dagrau a'u sychu â gwallt ei phen; ac yr oedd yn cusanu ei draed ac yn eu hiro â'r ennaint. 39Pan welodd hyn dywedodd y Pharisead oedd wedi ei wahodd wrtho'i hun, “Pe bai hwn yn broffwyd, byddai'n gwybod pwy yw'r wraig sy'n cyffwrdd ag ef, a sut un yw hi. Pechadures yw hi.” 40Atebodd Iesu ef, “Simon, y mae gennyf rywbeth i'w ddweud wrthyt.” Meddai yntau, “Dywed, Athro.” 41“Yr oedd gan fenthyciwr arian ddau ddyledwr,” meddai Iesu. “Pum cant o ddarnau arian#7:41 Gw. nodyn ar Mth. 18:28. oedd dyled un, a hanner cant oedd ar y llall. 42Gan nad oeddent yn gallu talu'n ôl, diddymodd y benthyciwr eu dyled i'r ddau. P'run ohonynt, gan hynny, fydd yn ei garu fwyaf?” 43Atebodd Simon, “Fe dybiwn i mai'r un y diddymwyd y ddyled fwyaf iddo.” “Bernaist yn gywir,” meddai ef wrtho. 44A chan droi at y wraig, meddai wrth Simon, “A weli di'r wraig hon? Deuthum i mewn i'th dŷ, ac ni roddaist ddŵr imi at fy nhraed; ond hon, gwlychodd hi fy nhraed â'i dagrau a'u sychu â'i gwallt. 45Ni roddaist gusan imi; ond nid yw hon wedi peidio â chusanu fy nhraed byth er pan ddeuthum i mewn. 46Nid iraist fy mhen ag olew; ond irodd hon fy nhraed ag ennaint. 47Am hynny rwy'n dweud wrthyt, y mae ei phechodau, er cynifer ydynt, wedi eu maddau; oherwydd y mae ei chariad yn fawr. Os mai ychydig a faddeuwyd i rywun, ychydig yw ei gariad.” 48Ac wrth y wraig meddai, “Y mae dy bechodau wedi eu maddau.” 49Yna dechreuodd y gwesteion eraill ddweud wrthynt eu hunain, “Pwy yw hwn sydd hyd yn oed yn maddau pechodau?” 50Ac meddai ef wrth y wraig, “Y mae dy ffydd wedi dy achub di; dos mewn tangnefedd.”

Dewis Presennol:

Luc 7: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Videos for Luc 7