Luc 7:36-39
Luc 7:36-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd un o’r Phariseaid wedi gwahodd Iesu i swper, felly aeth Iesu i’w dŷ ac eistedd wrth y bwrdd. Dyma wraig o’r dref oedd yn adnabyddus am ei bywyd anfoesol yn clywed fod Iesu yn cael pryd o fwyd yng nghartre’r Pharisead, ac aeth yno gyda blwch hardd yn llawn o bersawr. Plygodd y tu ôl iddo wrth ei draed, yn crio. Roedd ei dagrau yn gwlychu ei draed, felly sychodd nhw â’i gwallt a’u cusanu, ac yna tywallt y persawr arnyn nhw. Pan welodd y dyn oedd wedi gwahodd Iesu beth oedd yn digwydd, meddyliodd, “Petai’r dyn yma yn broffwyd byddai’n gwybod pa fath o wraig sy’n ei gyffwrdd – dydy hi’n ddim byd ond pechadures!”
Luc 7:36-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwahoddodd un o'r Phariseaid Iesu i bryd o fwyd gydag ef. Aeth ef i dŷ'r Pharisead a chymryd ei le wrth y bwrdd. A dyma wraig o'r dref oedd yn bechadures yn dod i wybod ei fod wrth bryd bwyd yn nhŷ'r Pharisead. Daeth â ffiol alabastr o ennaint, a sefyll y tu ôl iddo wrth ei draed gan wylo. Yna dechreuodd wlychu ei draed â'i dagrau a'u sychu â gwallt ei phen; ac yr oedd yn cusanu ei draed ac yn eu hiro â'r ennaint. Pan welodd hyn dywedodd y Pharisead oedd wedi ei wahodd wrtho'i hun, “Pe bai hwn yn broffwyd, byddai'n gwybod pwy yw'r wraig sy'n cyffwrdd ag ef, a sut un yw hi. Pechadures yw hi.”
Luc 7:36-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac un o’r Phariseaid a ddymunodd arno fwyta gydag ef: ac yntau a aeth i dŷ’r Pharisead, ac a eisteddodd i fwyta. Ac wele, gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhŷ’r Pharisead, a ddug flwch o ennaint: A chan sefyll wrth ei draed ef o’r tu ôl, ac wylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau, ac a’u sychodd â gwallt ei phen: a hi a gusanodd ei draed ef, ac a’u hirodd â’r ennaint. A phan welodd y Pharisead, yr hwn a’i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pe bai hwn broffwyd, efe a wybuasai pwy, a pha fath wraig yw’r hon sydd yn cyffwrdd ag ef: canys pechadures yw hi.