Luc 5:12-26
Luc 5:12-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn un o’r trefi dyma Iesu’n cyfarfod dyn oedd â gwahanglwyf dros ei gorff i gyd. Pan welodd hwnnw Iesu, syrthiodd ar ei wyneb ar lawr a chrefu am gael ei iacháu, “Arglwydd, gelli di fy ngwneud i’n iach os wyt ti eisiau.” Dyma Iesu yn estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân!” A’r eiliad honno dyma’r gwahanglwyf yn diflannu. Ar ôl ei rybuddio i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd, dyma Iesu’n dweud wrtho, “Dos i ddangos dy hun i’r offeiriad. Ac fel y dwedodd Moses, dos ag offrwm gyda ti, yn dystiolaeth i’r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.” Ond roedd y newyddion amdano yn mynd ar led fwy a mwy. Roedd tyrfaoedd mawr o bobl yn dod i wrando arno ac i gael eu hiacháu. Ond byddai Iesu’n aml yn mynd o’r golwg i leoedd unig yn yr anialwch i weddïo. Un diwrnod, pan oedd Iesu wrthi’n dysgu’r bobl, roedd Phariseaid ac arbenigwyr yn y Gyfraith yn eistedd, heb fod yn bell, yn gwrando arno. (Roedden nhw wedi dod yno o bob rhan o Galilea, a hefyd o Jwdea a Jerwsalem.) Ac roedd nerth yr Arglwydd yn galluogi Iesu i iacháu pobl. A dyma ryw bobl yn dod â dyn oedd wedi’i barlysu ato, yn gorwedd ar fatras. Roedden nhw’n ceisio mynd i mewn i’w osod i orwedd o flaen Iesu. Pan wnaethon nhw fethu gwneud hynny am fod yno gymaint o dyrfa, dyma nhw’n mynd i fyny ar y to a thynnu teils o’r to i’w ollwng i lawr ar ei fatras i ganol y dyrfa, reit o flaen Iesu. Pan welodd Iesu’r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn, “Mae dy bechodau wedi’u maddau.” Dyma’r Phariseaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dechrau meddwl, “Pwy ydy hwn, ei fod yn cablu fel hyn? Duw ydy’r unig un sy’n gallu maddau pechodau!” Roedd Iesu’n gwybod beth oedd yn mynd drwy’u meddyliau, a gofynnodd iddyn nhw, “Pam dych chi’n meddwl mod i’n cablu? Ydy’n haws dweud ‘Mae dy bechodau wedi’u maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed a cherdda’? Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear.” A dyma Iesu’n troi at y dyn oedd wedi’i barlysu a dweud wrtho, “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.” A dyna’n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed o flaen pawb yn y fan a’r lle, cymryd y fatras roedd wedi bod yn gorwedd arni, ac aeth adre gan foli Duw. Roedd pawb wedi’u syfrdanu’n llwyr ac roedden nhw hefyd yn moli Duw. “Dŷn ni wedi gweld pethau anhygoel heddiw,” medden nhw.
Luc 5:12-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan oedd Iesu yn un o'r trefi, dyma ddyn yn llawn o'r gwahanglwyf yn ei weld ac yn syrthio ar ei wyneb ac yn ymbil arno, “Syr, os mynni, gelli fy nglanhau.” Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.” Ac ymadawodd y gwahanglwyf ag ef ar unwaith. Gorchmynnodd Iesu iddo beidio â dweud wrth neb: “Dos ymaith,” meddai, “a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad fel y gorchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus.” Ond yr oedd y sôn amdano yn ymledu fwyfwy, ac yr oedd tyrfaoedd lawer yn ymgynnull i wrando ac i gael eu hiacháu oddi wrth eu clefydau. Ond byddai ef yn encilio i'r mannau unig ac yn gweddïo. Un diwrnod yr oedd ef yn dysgu, ac yn eistedd yno yr oedd Phariseaid ac athrawon y Gyfraith oedd wedi dod o bob pentref yng Ngalilea ac o Jwdea ac o Jerwsalem; ac yr oedd nerth yr Arglwydd gydag ef i iacháu. A dyma wŷr yn cario ar wely ddyn wedi ei barlysu; ceisio yr oeddent ddod ag ef i mewn a'i osod o flaen Iesu. Wedi methu cael ffordd i ddod ag ef i mewn oherwydd y dyrfa, dringasant ar y to a'i ollwng drwy'r priddlechi, ynghyd â'i wely, i'r canol o flaen Iesu. Wrth weld eu ffydd hwy dywedodd ef, “Ddyn, y mae dy bechodau wedi eu maddau iti.” A dechreuodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid feddwl, “Pwy yw hwn sy'n llefaru cabledd? Pwy ond Duw yn unig a all faddau pechodau?” Ond synhwyrodd Iesu eu meddyliau, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn meddwl fel hyn ynoch eich hunain? P'run sydd hawsaf, ai dweud, ‘Y mae dy bechodau wedi eu maddau iti’, ai ynteu dweud, ‘Cod a cherdda’? Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau”—meddai wrth y claf, “Dyma fi'n dweud wrthyt, cod a chymer dy wely a dos adref.” Ac ar unwaith cododd yntau yn eu gŵydd, cymryd y gwely y bu'n gorwedd arno, a mynd adref gan ogoneddu Duw. Daeth syndod dros bawb a dechreusant ogoneddu Duw; llanwyd hwy ag ofn, ac meddent, “Yr ydym wedi gweld pethau anhygoel heddiw.”
Luc 5:12-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu, fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele ŵr yn llawn o’r gwahanglwyf: a phan welodd efe yr Iesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhau. Yntau a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio; bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahanglwyf a aeth ymaith oddi wrtho. Ac efe a orchmynnodd iddo na ddywedai i neb: eithr dos ymaith, a dangos dy hun i’r offeiriad, ac offrwm dros dy lanhad, fel y gorchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt. A’r gair amdano a aeth yn fwy ar led: a llawer o bobloedd a ddaethant ynghyd i’w wrando ef, ac i’w hiacháu ganddo o’u clefydau. Ac yr oedd efe yn cilio o’r neilltu yn y diffeithwch, ac yn gweddïo. A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fod Phariseaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno, y rhai a ddaethent o bob pentref yng Ngalilea, a Jwdea, a Jerwsalem: ac yr oedd gallu’r Arglwydd i’w hiacháu hwynt. Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddyn a oedd glaf o’r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a’i ddodi ger ei fron ef. A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn, o achos y dyrfa, hwy a ddringasant ar nen y tŷ, ac a’i gollyngasant ef i waered yn y gwely trwy’r priddlechau, yn y canol gerbron yr Iesu. A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, maddeuwyd i ti dy bechodau. A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd? pwy a ddichon faddau pechodau ond Duw yn unig? A’r Iesu, yn gwybod eu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa resymu yn eich calonnau yr ydych? Pa un hawsaf, ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia? Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau, (eb efe wrth y claf o’r parlys,) Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymer dy wely, a dos i’th dŷ. Ac yn y man y cyfododd efe i fyny yn eu gŵydd hwynt; ac efe a gymerth yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw. A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Gwelsom bethau anhygoel heddiw.