Pan oedd Iesu yn un o'r trefi, dyma ddyn yn llawn o'r gwahanglwyf yn ei weld ac yn syrthio ar ei wyneb ac yn ymbil arno, “Syr, os mynni, gelli fy nglanhau.” Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.” Ac ymadawodd y gwahanglwyf ag ef ar unwaith. Gorchmynnodd Iesu iddo beidio â dweud wrth neb: “Dos ymaith,” meddai, “a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad fel y gorchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus.” Ond yr oedd y sôn amdano yn ymledu fwyfwy, ac yr oedd tyrfaoedd lawer yn ymgynnull i wrando ac i gael eu hiacháu oddi wrth eu clefydau. Ond byddai ef yn encilio i'r mannau unig ac yn gweddïo.
Un diwrnod yr oedd ef yn dysgu, ac yn eistedd yno yr oedd Phariseaid ac athrawon y Gyfraith oedd wedi dod o bob pentref yng Ngalilea ac o Jwdea ac o Jerwsalem; ac yr oedd nerth yr Arglwydd gydag ef i iacháu. A dyma wŷr yn cario ar wely ddyn wedi ei barlysu; ceisio yr oeddent ddod ag ef i mewn a'i osod o flaen Iesu. Wedi methu cael ffordd i ddod ag ef i mewn oherwydd y dyrfa, dringasant ar y to a'i ollwng drwy'r priddlechi, ynghyd â'i wely, i'r canol o flaen Iesu. Wrth weld eu ffydd hwy dywedodd ef, “Ddyn, y mae dy bechodau wedi eu maddau iti.” A dechreuodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid feddwl, “Pwy yw hwn sy'n llefaru cabledd? Pwy ond Duw yn unig a all faddau pechodau?” Ond synhwyrodd Iesu eu meddyliau, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn meddwl fel hyn ynoch eich hunain? P'run sydd hawsaf, ai dweud, ‘Y mae dy bechodau wedi eu maddau iti’, ai ynteu dweud, ‘Cod a cherdda’? Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau”—meddai wrth y claf, “Dyma fi'n dweud wrthyt, cod a chymer dy wely a dos adref.” Ac ar unwaith cododd yntau yn eu gŵydd, cymryd y gwely y bu'n gorwedd arno, a mynd adref gan ogoneddu Duw. Daeth syndod dros bawb a dechreusant ogoneddu Duw; llanwyd hwy ag ofn, ac meddent, “Yr ydym wedi gweld pethau anhygoel heddiw.”