Luc 4:38-44
Luc 4:38-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymadawodd Iesu â'r synagog ac aeth i dŷ Simon. Yr oedd mam-yng-nghyfraith Simon yn dioddef dan dwymyn lem, a deisyfasant ar Iesu ar ei rhan. Safodd ef uwch ei phen a cheryddu'r dwymyn, a gadawodd y dwymyn hi; ac ar unwaith cododd a dechrau gweini arnynt. Ac ar fachlud haul, pawb oedd â chleifion yn dioddef dan amrywiol afiechydon, daethant â hwy ato; a gosododd yntau ei ddwylo ar bob un ohonynt a'u hiacháu. Yr oedd cythreuliaid yn ymadael â llawer o bobl gan floeddio, “Mab Duw wyt ti.” Ond eu ceryddu a wnâi ef, a gwahardd iddynt ddweud gair, am eu bod yn gwybod mai'r Meseia oedd ef. Pan ddaeth hi'n ddydd aeth allan a theithio i le unig. Yr oedd y tyrfaoedd yn chwilio amdano, a daethant hyd ato a cheisio'i rwystro rhag mynd ymaith oddi wrthynt. Ond dywedodd ef wrthynt, “Y mae'n rhaid imi gyhoeddi'r newydd da am deyrnas Dduw i'r trefi eraill yn ogystal, oherwydd i hynny y'm hanfonwyd i.” Ac yr oedd yn pregethu yn synagogau Jwdea.
Luc 4:38-44 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Iesu’n gadael y synagog ac yn mynd i gartref Simon. Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn sâl iawn gyda gwres uchel. Dyma nhw’n gofyn i Iesu ei helpu hi. Plygodd Iesu drosti a gorchymyn i’r gwres i fynd, a diflannodd y tymheredd oedd ganddi yn y fan a’r lle! Yna dyma hi’n codi o’i gwely a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw. Ar ôl i’r haul fachlud roedd y Saboth drosodd, a daeth pobl at Iesu gyda’u perthnasau oedd yn dioddef o bob math o salwch. Roedd yn eu hiacháu drwy roi ei ddwylo ar bob un ohonyn nhw. A daeth cythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedden nhw’n gweiddi, “Mab Duw wyt ti!” am eu bod yn gwybod yn iawn mai Iesu oedd y Meseia, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud dim byd mwy. Wrth iddi wawrio y bore wedyn aeth Iesu i ffwrdd i le unig. Roedd tyrfaoedd o bobl yn edrych amdano, ac ar ôl ei gael dyma nhw’n ceisio ei stopio rhag mynd. Ond meddai Iesu, “Rhaid i mi gyhoeddi’r newyddion da am Dduw yn teyrnasu yn y trefi eraill hefyd. Dyna pam dw i wedi cael fy anfon yma.” Felly aeth ati i bregethu yn y synagogau drwy wlad Jwdea.
Luc 4:38-44 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan gyfododd yr Iesu o’r synagog, efe a aeth i mewn i dŷ Simon. Ac yr oedd chwegr Simon yn glaf o gryd blin: a hwy a atolygasant arno drosti hi. Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac a geryddodd y cryd; a’r cryd a’i gadawodd hi: ac yn y fan hi a gyfododd, ac a wasanaethodd arnynt hwy. A phan fachludodd yr haul, pawb a’r oedd ganddynt rai cleifion o amryw glefydau, a’u dygasant hwy ato ef; ac efe a roddes ei ddwylo ar bob un ohonynt, ac a’u hiachaodd hwynt. A’r cythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer dan lefain a dywedyd, Ti yw Crist, Mab Duw. Ac efe a’u ceryddodd hwynt, ac ni adawai iddynt ddywedyd y gwyddent mai efe oedd y Crist. Ac wedi ei myned hi yn ddydd, efe a aeth allan, ac a gychwynnodd i le diffaith: a’r bobloedd a’i ceisiasant ef; a hwy a ddaethant hyd ato, ac a’i hataliasant ef rhag myned ymaith oddi wrthynt. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir y mae yn rhaid i mi bregethu teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd: canys i hyn y’m danfonwyd. Ac yr oedd efe yn pregethu yn synagogau Galilea.