Luc 4:33-37
Luc 4:33-37 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Un tro dyma rhyw ddyn oedd yn y synagog yn rhoi sgrech uchel. (Roedd y dyn wedi’i feddiannu gan gythraul, hynny ydy ysbryd drwg.) “Aaaaar! Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth. Rwyt ti yma i’n dinistrio ni. Dw i’n gwybod pwy wyt ti – Un Sanctaidd Duw!” “Bydd ddistaw!” meddai Iesu’n ddig. “Tyrd allan ohono!” A dyma’r cythraul yn taflu’r dyn ar lawr o flaen pawb, yna daeth allan ohono heb wneud dim mwy o niwed iddo. Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn, “Beth sy’n mynd ymlaen? Mae ganddo’r fath awdurdod! Mae hyd yn oed yn gallu gorfodi ysbrydion drwg i ufuddhau iddo a dod allan o bobl!” Aeth y newyddion amdano ar led fel tân gwyllt drwy’r ardal i gyd.
Luc 4:33-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y synagog yr oedd dyn a chanddo ysbryd cythraul aflan. Gwaeddodd hwnnw â llais uchel, “Och, beth sydd a fynni di â ni, Iesu o Nasareth? A wyt ti wedi dod i'n difetha ni? Mi wn pwy wyt ti—Sanct Duw.” Ceryddodd Iesu ef â'r geiriau, “Taw, a dos allan ohono.” Lluchiodd y cythraul y dyn i'w canol ac aeth allan ohono heb niweidio dim arno. Aeth pawb yn syn a dechreusant siarad â'i gilydd, gan ddweud, “Pa air yw hwn? Y mae ef yn gorchymyn yr ysbrydion aflan ag awdurdod ac â nerth, ac y maent yn mynd allan.” Yr oedd sôn amdano yn mynd ar hyd a lled y gymdogaeth.
Luc 4:33-37 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn y synagog yr oedd dyn â chanddo ysbryd cythraul aflan; ac efe a waeddodd â llef uchel, Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i’n difetha ni? Myfi a’th adwaen pwy ydwyt; Sanct Duw. A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Distawa, a dos allan ohono. A’r cythraul, wedi ei daflu ef i’r canol, a aeth allan ohono, heb wneuthur dim niwed iddo. A daeth braw arnynt oll: a chyd-ymddiddanasant â’i gilydd, gan ddywedyd, Pa ymadrodd yw hwn! gan ei fod ef trwy awdurdod a nerth yn gorchymyn yr ysbrydion aflan, a hwythau yn myned allan. A sôn amdano a aeth allan i bob man o’r wlad oddi amgylch.