Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 23:32-47

Luc 23:32-47 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd dau ddyn arall oedd yn droseddwyr yn cael eu harwain allan i gael eu dienyddio gyda Iesu. Felly ar ôl iddyn nhw gyrraedd y lle sy’n cael ei alw ‘Y Benglog’, dyma nhw’n hoelio Iesu ar groes, a’r ddau droseddwr arall un bob ochr iddo. Ond yr hyn ddwedodd Iesu oedd, “Dad, maddau iddyn nhw. Dŷn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.” A dyma’r milwyr yn gamblo i weld pwy fyddai’n cael ei ddillad. Roedd y bobl yno’n gwylio’r cwbl, a’r arweinwyr yn chwerthin ar ei ben a’i wawdio. “Roedd e’n achub pobl eraill,” medden nhw, “felly gadewch iddo’i achub ei hun, os mai fe ydy’r Meseia mae Duw wedi’i ddewis!” Roedd y milwyr hefyd yn gwneud sbort am ei ben. Roedden nhw’n cynnig gwin sur rhad iddo ac yn dweud, “Achub dy hun os mai ti ydy Brenin yr Iddewon!” Achos roedd arwydd uwch ei ben yn dweud: DYMA FRENIN YR IDDEWON. Yna dyma un o’r troseddwyr oedd yn hongian yno yn dechrau’i regi: “Onid ti ydy’r Meseia? Achub dy hun, a ninnau hefyd!” Ond dyma’r troseddwr arall yn ei geryddu. “Does arnat ti ddim ofn Duw a thithau ar fin marw hefyd? Dŷn ni’n haeddu cael ein cosbi am yr hyn wnaethon ni. Ond wnaeth hwn ddim byd o’i le.” Yna meddai, “Iesu, cofia amdana i pan fyddi di’n teyrnasu.” Dyma Iesu’n ateb, “Wir i ti – cei di ddod gyda mi i baradwys heddiw.” Roedd hi tua chanol dydd erbyn hyn, ac aeth yn hollol dywyll drwy’r wlad i gyd hyd dri o’r gloch y p’nawn. Roedd fel petai golau’r haul wedi diffodd! Dyna pryd wnaeth y llen hir oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner. A dyma Iesu’n gweiddi’n uchel, “Dad, dw i’n rhoi fy ysbryd yn dy ddwylo di,” ac ar ôl dweud hynny stopiodd anadlu a marw. Pan welodd y capten milwrol oedd yno beth ddigwyddodd, dechreuodd foli Duw a dweud, “Roedd y dyn yma’n siŵr o fod yn ddieuog!”

Luc 23:32-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daethpwyd ag eraill hefyd, dau droseddwr, i'w dienyddio gydag ef. Pan ddaethant i'r lle a elwir Y Benglog, yno croeshoeliwyd ef a'r troseddwyr, y naill ar y dde a'r llall ar y chwith iddo. Ac meddai Iesu, “O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.” A bwriasant goelbrennau i rannu ei ddillad. Yr oedd y bobl yn sefyll yno, yn gwylio. Yr oedd aelodau'r Cyngor hwythau yn ei wawdio gan ddweud, “Fe achubodd eraill; achubed ei hun, os ef yw Meseia Duw, yr Etholedig.” Daeth y milwyr hefyd ato a'i watwar, gan gynnig gwin sur iddo, a chan ddweud, “Os ti yw Brenin yr Iddewon, achub dy hun.” Yr oedd hefyd arysgrif uwch ei ben: “Hwn yw Brenin yr Iddewon.” Yr oedd un o'r troseddwyr ar ei groes yn ei gablu gan ddweud, “Onid ti yw'r Meseia? Achub dy hun a ninnau.” Ond atebodd y llall, a'i geryddu: “Onid oes arnat ofn Duw, a thithau dan yr un ddedfryd? I ni, y mae hynny'n gyfiawn, oherwydd haeddiant ein gweithredoedd sy'n dod inni. Ond ni wnaeth hwn ddim o'i le.” Yna dywedodd, “Iesu, cofia fi pan ddoi i'th deyrnas.” Atebodd yntau, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.” Erbyn hyn yr oedd hi tua hanner dydd. Daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn, a'r haul wedi diffodd. Rhwygwyd llen y deml yn ei chanol. Llefodd Iesu â llef uchel, “O Dad, i'th ddwylo di yr wyf yn cyflwyno fy ysbryd.” A chan ddweud hyn bu farw. Pan welodd y canwriad yr hyn oedd wedi digwydd, dechreuodd ogoneddu Duw gan ddweud, “Yn wir, dyn cyfiawn oedd hwn.”

Luc 23:32-47 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac arweiniwyd gydag ef hefyd ddau eraill, drwgweithredwyr, i’w rhoi i’w marwolaeth. A phan ddaethant i’r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a’r drwgweithredwyr; un ar y llaw ddeau, a’r llall ar yr aswy. A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddau iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a ranasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren. A’r bobl a safodd yn edrych. A’r penaethiaid hefyd gyda hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun, os hwn yw Crist, etholedig Duw. A’r milwyr hefyd a’i gwatwarasant ef, gan ddyfod ato, a chynnig iddo finegr, A dywedyd, Os tydi yw Brenin yr Iddewon, gwared dy hun. Ac yr ydoedd hefyd arysgrifen wedi ei hysgrifennu uwch ei ben ef, â llythrennau Groeg, a Lladin, a Hebraeg, HWN YW BRENIN YR IDDEWON. Ac un o’r drwgweithredwyr a grogasid a’i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau. Eithr y llall a atebodd, ac a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth? A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai’r pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i le. Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia fi pan ddelych i’th deyrnas. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys. Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. A’r haul a dywyllwyd, a llen y deml a rwygwyd yn ei chanol. A’r Iesu, gan lefain â llef uchel, a ddywedodd, O Dad, i’th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd. A’r canwriad, pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn.