Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 23:32-47

Luc 23:32-47 BNET

Roedd dau ddyn arall oedd yn droseddwyr yn cael eu harwain allan i gael eu dienyddio gyda Iesu. Felly ar ôl iddyn nhw gyrraedd y lle sy’n cael ei alw ‘Y Benglog’, dyma nhw’n hoelio Iesu ar groes, a’r ddau droseddwr arall un bob ochr iddo. Ond yr hyn ddwedodd Iesu oedd, “Dad, maddau iddyn nhw. Dŷn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.” A dyma’r milwyr yn gamblo i weld pwy fyddai’n cael ei ddillad. Roedd y bobl yno’n gwylio’r cwbl, a’r arweinwyr yn chwerthin ar ei ben a’i wawdio. “Roedd e’n achub pobl eraill,” medden nhw, “felly gadewch iddo’i achub ei hun, os mai fe ydy’r Meseia mae Duw wedi’i ddewis!” Roedd y milwyr hefyd yn gwneud sbort am ei ben. Roedden nhw’n cynnig gwin sur rhad iddo ac yn dweud, “Achub dy hun os mai ti ydy Brenin yr Iddewon!” Achos roedd arwydd uwch ei ben yn dweud: DYMA FRENIN YR IDDEWON. Yna dyma un o’r troseddwyr oedd yn hongian yno yn dechrau’i regi: “Onid ti ydy’r Meseia? Achub dy hun, a ninnau hefyd!” Ond dyma’r troseddwr arall yn ei geryddu. “Does arnat ti ddim ofn Duw a thithau ar fin marw hefyd? Dŷn ni’n haeddu cael ein cosbi am yr hyn wnaethon ni. Ond wnaeth hwn ddim byd o’i le.” Yna meddai, “Iesu, cofia amdana i pan fyddi di’n teyrnasu.” Dyma Iesu’n ateb, “Wir i ti – cei di ddod gyda mi i baradwys heddiw.” Roedd hi tua chanol dydd erbyn hyn, ac aeth yn hollol dywyll drwy’r wlad i gyd hyd dri o’r gloch y p’nawn. Roedd fel petai golau’r haul wedi diffodd! Dyna pryd wnaeth y llen hir oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner. A dyma Iesu’n gweiddi’n uchel, “Dad, dw i’n rhoi fy ysbryd yn dy ddwylo di,” ac ar ôl dweud hynny stopiodd anadlu a marw. Pan welodd y capten milwrol oedd yno beth ddigwyddodd, dechreuodd foli Duw a dweud, “Roedd y dyn yma’n siŵr o fod yn ddieuog!”

Video for Luc 23:32-47