Luc 21:9-10
Luc 21:9-10 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Pan fyddwch yn clywed am ryfeloedd a chwyldroadau, peidiwch dychryn. Mae’r pethau yma’n siŵr o ddigwydd gyntaf, ond fydd diwedd y byd ddim yn digwydd yn syth wedyn.” Dwedodd wrthyn nhw, “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd.
Luc 21:9-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A phan glywch am ryfeloedd a gwrthryfeloedd, peidiwch â chymryd eich dychrynu. Rhaid i hyn ddigwydd yn gyntaf, ond nid yw'r diwedd i fod ar unwaith.” Y pryd hwnnw dywedodd wrthynt, “Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas.
Luc 21:9-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan glywoch sôn am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymerwch fraw: canys rhaid i’r pethau hyn fod yn gyntaf: ond ni ddaw y diwedd yn y man. Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas