Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 21

21
1Ac wedi iddo edrych i fyny, efe a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i’r drysorfa. 2Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling. 3Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll: 4Canys y rhai hyn oll o’r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymau Duw: eithr hon o’i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywyd a oedd ganddi.
5Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y deml, ei bod hi wedi ei harddu â meini teg a rhoddion, efe a ddywedodd, 6Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw’r dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen, a’r nis datodir. 7A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athro, pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod? 8Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; a’r amser a nesaodd: nac ewch gan hynny ar eu hôl hwynt. 9A phan glywoch sôn am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymerwch fraw: canys rhaid i’r pethau hyn fod yn gyntaf: ond ni ddaw y diwedd yn y man. 10Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: 11A daeargrynfâu mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau; a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrion a fydd o’r nef. 12Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac a’ch erlidiant, gan eich traddodi i’r synagogau, ac i garcharau, wedi eich dwyn gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i. 13Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth. 14Am hynny rhoddwch eich bryd ar na ragfyfyrioch beth a ateboch: 15Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na’i gwrthsefyll. 16A chwi a fradychir, ie, gan rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac i rai ohonoch y parant farwolaeth. 17A chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i. 18Ond ni chyll blewyn o’ch pen chwi. 19Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau. 20A phan weloch Jerwsalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfanhedd-dra hi wedi nesáu. 21Yna y rhai fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd; a’r rhai a fyddant yn ei chanol hi, ymadawant; a’r rhai a fyddant yn y meysydd, nac elont i mewn iddi. 22Canys dyddiau dial yw’r rhai hyn, i gyflawni’r holl bethau a ysgrifennwyd. 23Eithr gwae’r rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn. 24A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf, a chaethgludir hwynt at bob cenhedlaeth: a Jerwsalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd, hyd oni chyflawner amser y Cenhedloedd.
25A bydd arwyddion yn yr haul, a’r lleuad, a’r sêr; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng gyngor; a’r môr a’r tonnau yn rhuo; 26A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear: oblegid nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. 27Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmwl, gyda gallu a gogoniant mawr. 28A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fyny, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared yn nesáu. 29Ac efe a ddywedodd ddameg iddynt; Edrychwch ar y ffigysbren, a’r holl brennau; 30Pan ddeiliant hwy weithian, chwi a welwch ac a wyddoch ohonoch eich hun, fod yr haf yn agos. 31Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos. 32Yn wir meddaf i chwi, Nid â’r oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben. 33Y nef a’r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
34Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i’ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymwth; 35Canys efe a ddaw, fel magl, ar warthaf pawb oll a’r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaear. 36Gwyliwch gan hynny a gweddïwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll gerbron Mab y dyn. 37A’r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a’r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewydd. 38A’r holl bobl a foregyrchent ato ef yn y deml, i’w glywed ef.

Dewis Presennol:

Luc 21: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Video for Luc 21