Luc 18:29-30
Luc 18:29-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond meddai ef wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych nad oes neb a adawodd dŷ neu wraig neu frodyr neu rieni neu blant, er mwyn teyrnas Dduw, na chaiff dderbyn yn ôl lawer gwaith cymaint yn yr amser hwn, ac yn yr oes sy'n dod fywyd tragwyddol.”
Rhanna
Darllen Luc 18Luc 18:29-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Credwch chi fi,” meddai Iesu wrthyn nhw, “bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref a gadael gwraig neu frodyr neu rieni neu blant er mwyn teyrnas Dduw yn derbyn llawer iawn mwy yn y bywyd yma. Ac yn yr oes sydd i ddod byddan nhw’n derbyn bywyd tragwyddol!”
Rhanna
Darllen Luc 18Luc 18:29-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw, A’r ni dderbyn lawer cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol.
Rhanna
Darllen Luc 18