Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 18

18
1Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo yn wastad, ac heb ddiffygio; 2Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchai ddyn. 3Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr. 4Ac efe nis gwnâi dros amser: eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn; 5Eto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a’i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a’m syfrdanu i. 6A’r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn. 7Ac oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt? 8Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dial efe hwynt ar frys. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff efe ffydd ar y ddaear?
9Ac efe a ddywedodd y ddameg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill: 10Dau ŵr a aeth i fyny i’r deml i weddïo; un yn Pharisead, a’r llall yn bublican. 11Y Pharisead o’i sefyll a weddïodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn; O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr; neu, fel y publican hwn chwaith. 12Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn degymu cymaint oll ag a feddaf. 13A’r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynnai gymaint â chodi ei olygon tua’r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur. 14Dywedaf i chwi, Aeth hwn i waered i’w dŷ wedi ei gyfiawnhau yn fwy na’r llall: canys pob un a’r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun, a ostyngir; a phob un a’r y sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
15A hwy a ddygasant ato blant bychain hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion pan welsant, a’u ceryddasant hwy. 16Eithr yr Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Gadewch i’r plant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw. 17Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.
18A rhyw lywodraethwr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragwyddol? 19A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y’m gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond un, sef Duw. 20Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Anrhydedda dy dad a’th fam. 21Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o’m hieuenctid. 22A’r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae un peth eto yn ôl i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi. 23Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn. 24A’r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw! 25Canys haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. 26A’r rhai a glywsent a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig? 27Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd amhosibl gyda dynion, sydd bosibl gyda Duw. 28A dywedodd Pedr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di. 29Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw, 30A’r ni dderbyn lawer cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol.
31Ac efe a gymerodd y deuddeg ato, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a chyflawnir pob peth a’r sydd yn ysgrifenedig trwy’r proffwydi am Fab y dyn. 32Canys efe a draddodir i’r Cenhedloedd, ac a watwerir, ac a amherchir, ac a boerir arno: 33Ac wedi iddynt ei fflangellu, y lladdant ef: a’r trydydd dydd efe a atgyfyd. 34A hwy ni ddeallasant ddim o’r pethau hyn; a’r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd.
35A bu, ac efe yn nesáu at Jericho, i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardota: 36A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynnodd pa beth oedd hyn. 37A hwy a ddywedasant iddo, Mai Iesu o Nasareth oedd yn myned heibio. 38Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. 39A’r rhai oedd yn myned o’r blaen a’i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. 40A’r Iesu a safodd, ac a orchmynnodd ei ddwyn ef ato. A phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynnodd iddo, 41Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael ohonof fy ngolwg. 42A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymer dy olwg: dy ffydd a’th iachaodd. 43Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a’i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A’r holl bobl, pan welsant, a roesant foliant i Dduw.

Dewis Presennol:

Luc 18: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda