Luc 18:1-17
Luc 18:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd ddameg wrthynt i ddangos fod yn rhaid iddynt weddïo bob amser yn ddiflino: “Mewn rhyw dref yr oedd barnwr. Nid oedd yn ofni Duw nac yn parchu eraill. Yn y dref honno yr oedd hefyd wraig weddw a fyddai'n mynd ger ei fron ac yn dweud, ‘Rho imi ddedfryd gyfiawn yn erbyn fy ngwrthwynebwr.’ Am hir amser daliodd i'w gwrthod, ond yn y diwedd meddai wrtho'i hun, ‘Er nad wyf yn ofni Duw nac yn parchu eraill, eto, am fod y wraig weddw yma yn fy mhoeni o hyd, fe roddaf iddi'r ddedfryd, rhag iddi ddal i ddod a'm plagio i farwolaeth.’ ” Ac meddai'r Arglwydd, “Clywch eiriau'r barnwr anghyfiawn. A fydd Duw yn gwrthod cyfiawnder i'w etholedigion, sy'n galw'n daer arno ddydd a nos? A fydd ef yn oedi yn eu hachos hwy? Rwy'n dweud wrthych y rhydd ef gyfiawnder iddynt yn ebrwydd. Ond eto, pan ddaw Mab y Dyn, a gaiff ef ffydd ar y ddaear?” Dywedodd hefyd y ddameg hon wrth rai oedd yn sicr eu bod hwy eu hunain yn gyfiawn, ac yn dirmygu pawb arall: “Aeth dau ddyn i fyny i'r deml i weddïo, y naill yn Pharisead a'r llall yn gasglwr trethi. Safodd y Pharisead wrtho'i hun a gweddïo fel hyn: ‘O Dduw, yr wyf yn diolch iti am nad wyf fi fel pawb arall, yn rheibus, yn anghyfiawn, yn odinebus, na chwaith fel y casglwr trethi yma. Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yr wythnos, ac yn talu degwm ar bopeth a gaf.’ Ond yr oedd y casglwr trethi yn sefyll ymhell i ffwrdd, heb geisio cymaint â chodi ei lygaid tua'r nef; yr oedd yn curo ei fron gan ddweud, ‘O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi, bechadur.’ Rwy'n dweud wrthych, dyma'r un a aeth adref wedi ei gyfiawnhau, nid y llall; oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun.” Yr oeddent yn dod â'u babanod hefyd ato, iddo gyffwrdd â hwy, ond wrth weld hyn dechreuodd y disgyblion eu ceryddu. Ond galwodd Iesu'r plant ato gan ddweud, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.”
Luc 18:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dwedodd Iesu stori wrth ei ddisgyblion i ddangos y dylen nhw ddal ati i weddïo, a pheidio byth ag anobeithio: “Roedd barnwr yn byw mewn rhyw dref,” meddai, “dyn oedd ddim yn parchu Duw na neb arall. Ac yn yr un dref roedd gwraig weddw oedd yn mynd ato o hyd ac o hyd i ofyn iddo farnu rhywun oedd wedi gwneud niwed iddi. “Chymerodd y barnwr ddim sylw ohoni i ddechrau. Ond yn y diwedd roedd wedi cael hen ddigon – ‘Dw i ddim yn ddyn duwiol a dw i ddim yn poeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohono i. Ond bydd y wraig yma wedi ngyrru i’n wallgof os na wna i beth mae hi eisiau!’” Yna meddai’r Arglwydd, “Gwrandwch, mae gwers i’w dysgu yma. Dych chi’n gwybod beth ddwedodd y barnwr drwg. Felly beth am Dduw? Dych chi ddim yn meddwl y bydd e’n amddiffyn y bobl mae wedi’u dewis iddo’i hun? Fydd e ddim yn oedi! Bydd yn ymateb ar unwaith i’r rhai sy’n galw arno ddydd a nos! Dw i’n dweud wrthoch chi, bydd yn rhoi dedfryd gyfiawn iddyn nhw, a hynny ar frys! Ond, pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl, faint o bobl fydd yn dal i gredu bryd hynny?” Dwedodd Iesu y stori yma wrth rai pobl oedd yn meddwl eu bod nhw eu hunain mor dduwiol, ac yn edrych i lawr eu trwynau ar bawb arall: “Aeth dau ddyn i weddïo yn y deml. Pharisead oedd un ohonyn nhw, a’r llall yn ddyn oedd yn casglu trethi i Rufain. Dyma’r Pharisead yn sefyll ar ei draed yn hyderus, a dyma oedd ei weddi: ‘O Dduw, dw i yn diolch i ti mod i ddim yr un fath â phobl eraill. Dw i ddim yn twyllo na gwneud dim byd drwg arall, a dw i ddim yn gwneud pethau anfoesol. Dw i ddim yr un fath â’r bradwr yma! Dw i’n ymprydio ddwywaith yr wythnos ac yn rhoi un rhan o ddeg o bopeth sydd gen i i’r deml.’ “Ond roedd y casglwr trethi wedi mynd i sefyll mewn rhyw gornel ar ei ben ei hun. Doedd e ddim yn meiddio edrych i fyny hyd yn oed. Yn lle hynny roedd yn curo’i frest mewn cywilydd. Dyma oedd ei weddi e: ‘O Dduw, wnei di faddau i mi. Dw i’n bechadur ofnadwy.’ “Dw i’n dweud wrthoch chi mai’r casglwr trethi, dim y Pharisead, oedd yr un aeth adre a’i berthynas gyda Duw yn iawn. Bydd Duw yn torri crib pobl falch ac yn anrhydeddu’r rhai gostyngedig.” Roedd pobl yn dod â’u babis bach at Iesu er mwyn iddo eu cyffwrdd a’u bendithio. Ond pan welodd y disgyblion nhw, dyma nhw’n dweud y drefn wrthyn nhw. Ond dyma Iesu’n eu galw nhw ato. “Gadewch i’r plant bach ddod ata i,” meddai, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw sy’n derbyn teyrnasiad Duw. Credwch chi fi, heb ymddiried fel plentyn bach, wnewch chi byth ddod yn un o’r rhai mae Duw’n teyrnasu yn eu bywydau.”
Luc 18:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo yn wastad, ac heb ddiffygio; Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchai ddyn. Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr. Ac efe nis gwnâi dros amser: eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn; Eto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a’i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a’m syfrdanu i. A’r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn. Ac oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt? Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dial efe hwynt ar frys. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff efe ffydd ar y ddaear? Ac efe a ddywedodd y ddameg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill: Dau ŵr a aeth i fyny i’r deml i weddïo; un yn Pharisead, a’r llall yn bublican. Y Pharisead o’i sefyll a weddïodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn; O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr; neu, fel y publican hwn chwaith. Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn degymu cymaint oll ag a feddaf. A’r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynnai gymaint â chodi ei olygon tua’r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur. Dywedaf i chwi, Aeth hwn i waered i’w dŷ wedi ei gyfiawnhau yn fwy na’r llall: canys pob un a’r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun, a ostyngir; a phob un a’r y sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir. A hwy a ddygasant ato blant bychain hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion pan welsant, a’u ceryddasant hwy. Eithr yr Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Gadewch i’r plant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw. Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.