Luc 13:18-21
Luc 13:18-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gofynnodd Iesu, “Sut beth ydy teyrnasiad Duw? Sut alla i ei ddisgrifio? Mae fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei ardd. Tyfodd yn goeden, a daeth yr adar i nythu yn ei changhennau!” A gofynnodd eto, “Sut beth ydy teyrnasiad Duw? Mae fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd ac yn ei gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwy’r toes i gyd.”
Luc 13:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Meddai gan hynny, “I beth y mae teyrnas Dduw yn debyg, ac i beth y cyffelybaf hi? Y mae'n debyg i hedyn mwstard; y mae rhywun yn ei gymryd ac yn ei fwrw i'w ardd, ac y mae'n tyfu ac yn dod yn goeden, ac y mae adar yr awyr yn nythu yn ei changhennau.” Ac meddai eto, “I beth y cyffelybaf deyrnas Dduw? Y mae'n debyg i lefain; y mae gwraig yn ei gymryd, ac yn ei gymysgu â thri mesur o flawd gwenith, nes lefeinio'r cwbl.”
Luc 13:18-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd, I ba beth y mae teyrnas Dduw yn debyg? ac i ba beth y cyffelybaf hi? Tebyg yw i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn, ac a’i heuodd yn ei ardd; ac efe a gynyddodd, ac a aeth yn bren mawr, ac adar yr awyr a nythasant yn ei ganghennau ef. A thrachefn y dywedodd, I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw? Cyffelyb yw i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni surodd y cwbl oll.