Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 13

13
1Ac yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnnw rai yn mynegi iddo am y Galileaid, y rhai, y cymysgasai Peilat eu gwaed ynghyd â’u haberthau. 2A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt, Ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid mwy na’r holl Galileaid, am iddynt ddioddef y cyfryw bethau? 3Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd. 4Neu’r deunaw hynny ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Siloam, ac a’u lladdodd hwynt: a ydych chwi yn tybied eu bod hwy yn bechaduriaid mwy na’r holl ddynion oedd yn cyfanheddu yn Jerwsalem? 5Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd.
6Ac efe a ddywedodd y ddameg hon: Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan; ac efe a ddaeth i geisio ffrwyth arno, ac nis cafodd. 7Yna efe a ddywedodd wrth y gwinllannydd, Wele, tair blynedd yr ydwyf yn dyfod, gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn; ac nid ydwyf yn cael dim: tor ef i lawr; paham y mae efe yn diffrwytho’r tir? 8Ond efe gan ateb a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi gloddio o’i amgylch, a bwrw tail: 9Ac os dwg efe ffrwyth, da: onid e, gwedi hynny tor ef i lawr. 10Ac yr oedd efe yn dysgu yn un o’r synagogau ar y Saboth.
11Ac wele, yr oedd gwraig ac ynddi ysbryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac oedd wedi cydgrymu, ac ni allai hi mewn modd yn y byd ymunioni. 12Pan welodd yr Iesu hon, efe a’i galwodd hi ato, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, rhyddhawyd di oddi wrth dy wendid. 13Ac efe a roddes ei ddwylo arni: ac yn ebrwydd hi a unionwyd, ac a ogoneddodd Dduw. 14A’r archsynagogydd a atebodd yn ddicllon, am i’r Iesu iacháu ar y Saboth, ac a ddywedodd wrth y bobl, Chwe diwrnod sydd, yn y rhai y dylid gweithio: ar y rhai hyn gan hynny deuwch, a iachaer chwi: ac nid ar y dydd Saboth. 15Am hynny yr Arglwydd a’i hatebodd ef, ac a ddywedodd, O ragrithiwr, oni ollwng pob un ohonoch ar y Saboth ei ych neu ei asyn o’r preseb, a’i arwain i’r dwfr? 16Ac oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd, gael ei rhyddhau o’r rhwym hwn ar y dydd Saboth? 17Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr ef a gywilyddiasant: a’r holl bobl a lawenychasant am yr holl bethau gogoneddus a wneid ganddo.
18Ac efe a ddywedodd, I ba beth y mae teyrnas Dduw yn debyg? ac i ba beth y cyffelybaf hi? 19Tebyg yw i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn, ac a’i heuodd yn ei ardd; ac efe a gynyddodd, ac a aeth yn bren mawr, ac adar yr awyr a nythasant yn ei ganghennau ef. 20A thrachefn y dywedodd, I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw? 21Cyffelyb yw i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni surodd y cwbl oll. 22Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd a threfi, gan athrawiaethu, ac ymdeithio tua Jerwsalem.
23A dywedodd un wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai cadwedig? Ac efe a ddywedodd wrthynt, 24Ymdrechwch am fyned i mewn trwy’r porth cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac nis gallant. 25Gwedi cyfodi gŵr y tŷ, a chau’r drws, a dechrau ohonoch sefyll oddi allan, a churo’r drws, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, Nid adwaen ddim ohonoch o ba le yr ydych: 26Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwytasom ac a yfasom yn dy ŵydd di, a thi a ddysgaist yn ein heolydd ni. 27Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Nid adwaen chwi o ba le yr ydych: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi holl weithredwyr anwiredd. 28Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a’r holl broffwydi, yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan. 29A daw rhai o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, ac o’r gogledd, ac o’r deau, ac a eisteddant yn nheyrnas Dduw. 30Ac wele, olaf ydyw’r rhai a fyddant flaenaf, a blaenaf ydyw’r rhai a fyddant olaf.
31Y dwthwn hwnnw y daeth ato ryw Phariseaid, gan ddywedyd wrtho, Dos allan, a cherdda oddi yma: canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di. 32Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, a dywedwch i’r cadno hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn iacháu heddiw ac yfory, a’r trydydd dydd y’m perffeithir. 33Er hynny rhaid i mi ymdaith heddiw ac yfory, a thrennydd: canys ni all fod y derfydd am broffwyd allan o Jerwsalem. 34O Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio’r rhai a anfonir atat: pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech! 35Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd. Ac yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, Ni welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywedoch, Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.

Dewis Presennol:

Luc 13: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd