Luc 12:13-33
Luc 12:13-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma rywun o ganol y dyrfa yn galw arno, “Athro, mae fy mrawd yn gwrthod rhannu’r eiddo mae dad wedi’i adael i ni. Dwed wrtho am ei rannu.” Atebodd Iesu, “Ffrind, pwy wnaeth fi yn farnwr neu’n ganolwr i sortio rhyw broblem felly rhyngoch chi’ch dau?” Yna dwedodd, “Gwyliwch eich hunain! Mae’r awydd i gael mwy a mwy o bethau yn beryglus. Dim faint o bethau sydd gynnoch chi sy’n rhoi bywyd go iawn i chi.” A dwedodd stori wrthyn nhw: “Roedd rhyw ddyn cyfoethog yn berchen tir, a chafodd gnwd arbennig o dda un cynhaeaf. ‘Does gen i ddim digon o le i storio’r cwbl,’ meddai. ‘Beth wna i?’ “‘Dw i’n gwybod! Tynnu’r hen ysguboriau i lawr, ac adeiladau rhai mwy yn eu lle! Bydd gen i ddigon o le i storio popeth wedyn. Yna bydda i’n gallu eistedd yn ôl a dweud wrtho i’n hun, “Mae gen i ddigon i bara am flynyddoedd lawer. Dw i’n mynd i ymlacio a mwynhau fy hun yn bwyta ac yn yfed.”’ “Ond dyma Duw yn dweud wrtho, ‘Y ffŵl dwl! Heno ydy’r noson rwyt ti’n mynd i farw. Pwy fydd yn cael y cwbl rwyt ti wedi’i gasglu i ti dy hun?’ “Ie, fel yna bydd hi ar bobl sy’n casglu cyfoeth iddyn nhw’u hunain ond sy’n dlawd mewn gwirionedd, am eu bod heb Dduw.” Yna dyma Iesu’n dweud wrth ei ddisgyblion: “Felly, dyma dw i’n ddweud – peidiwch poeni beth i’w fwyta a beth i’w wisgo. Mae mwy i fywyd na bwyd a dillad. Meddyliwch am gigfrain: Dŷn nhw ddim yn hau nac yn medi, a does ganddyn nhw ddim ystordy nac ysgubor – ac eto mae Duw’n eu bwydo nhw. Dych chi’n llawer mwy gwerthfawr yn ei olwg nag adar! Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach drwy boeni! Os allwch chi ddim gwneud peth bach fel yna, beth ydy’r pwynt o boeni am bopeth arall? “Meddyliwch sut mae blodau’n tyfu. Dydyn nhw ddim yn gweithio nac yn nyddu. Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw. Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy’n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae’n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae’ch ffydd chi? Felly peidiwch treulio’ch bywyd yn poeni am fwyd a diod! Pobl sydd ddim yn credu sy’n poeni am bethau felly. Mae’ch Tad yn gwybod beth sydd ei angen arnoch chi. Gwnewch yn siŵr mai’r flaenoriaeth i chi ydy ymostwng i deyrnasiad Duw, ac wedyn cewch y pethau eraill yma i gyd. “Fy mhraidd bach i, peidiwch bod ofn. Mae Duw yn benderfynol o rannu ei deyrnas â chi. Gwerthwch eich eiddo a rhoi’r arian i’r tlodion. Gofalwch fod gynnoch chi bwrs sy’n mynd i bara am byth, trysor sydd ddim yn colli ei werth. Dydy lleidr ddim yn gallu dwyn y trysor nefol, na gwyfyn yn gallu ei ddifetha.
Luc 12:13-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Meddai rhywun o'r dyrfa wrtho, “Athro, dywed wrth fy mrawd am roi i mi fy nghyfran o'n hetifeddiaeth.” Ond meddai ef wrtho, “Ddyn, pwy a'm penododd i yn farnwr neu yn gymrodeddwr rhyngoch?” A dywedodd wrthynt, “Gofalwch ymgadw rhag trachwant o bob math, oherwydd, er cymaint ei gyfoeth, nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau.” Ac adroddodd ddameg wrthynt: “Yr oedd tir rhyw ŵr cyfoethog wedi dwyn cnwd da. A dechreuodd feddwl a dweud wrtho'i hun, ‘Beth a wnaf fi, oherwydd nid oes gennyf unman i gasglu fy nghnydau iddo?’ Ac meddai, ‘Dyma beth a wnaf fi: tynnaf f'ysguboriau i lawr ac adeiladu rhai mwy, a chasglaf yno fy holl ŷd a'm heiddo. Yna dywedaf wrthyf fy hun, “Ddyn, y mae gennyt stôr o lawer o bethau ar gyfer blynyddoedd lawer; gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen.” ’ Ond meddai Duw wrtho, ‘Yr ynfytyn, heno y mynnir dy einioes yn ôl gennyt, a phwy gaiff y pethau a baratoaist?’ Felly y bydd hi ar y rhai sy'n casglu trysor iddynt eu hunain a heb fod yn gyfoethog gerbron Duw.” Meddai wrth ei ddisgyblion, “Am hynny rwy'n dweud wrthych, peidiwch â phryderu am eich bywyd nac am eich corff, beth i'w fwyta na beth i'w wisgo. Oherwydd y mae mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad. Ystyriwch y brain: nid ydynt yn hau nac yn medi, nid oes ganddynt ystordy nac ysgubor, ac eto y mae Duw yn eu bwydo. Gymaint mwy gwerthfawr ydych chwi na'r adar! A ph'run ohonoch a all ychwanegu munud at ei oes trwy bryderu? Felly os yw hyd yn oed y peth lleiaf y tu hwnt i'ch gallu, pam yr ydych yn pryderu am y gweddill? Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu; ond rwy'n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i'w chymharu ag un o'r rhain. Os yw Duw yn dilladu felly y glaswellt, sydd heddiw yn y meysydd ac yfory yn cael ei daflu i'r ffwrn, gymaint mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd! A chwithau, peidiwch â rhoi eich bryd ar beth i'w fwyta a beth i'w yfed, a pheidiwch â byw mewn pryder; oherwydd dyna'r holl bethau y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio, ond y mae gennych chwi Dad sy'n gwybod fod arnoch eu hangen. Ceisiwch yn hytrach ei deyrnas ef, a rhoir y pethau hyn yn ychwaneg i chwi. Peidiwch ag ofni, fy mhraidd bychan, oherwydd gwelodd eich Tad yn dda roi i chwi'r deyrnas. Gwerthwch eich eiddo a rhowch ef yn elusen; gwnewch i chwi eich hunain byrsau nad ydynt yn treulio, trysor dihysbydd yn y nefoedd, lle nad yw lleidr yn dod ar y cyfyl, na gwyfyn yn difa.
Luc 12:13-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A rhyw un o’r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi yr etifeddiaeth. Yntau a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a’m gosododd i yn farnwr neu yn rhannwr arnoch chwi? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd-dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo. Ac efe a draethodd wrthynt ddameg, gan ddywedyd, Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda. Ac efe a ymresymodd ynddo’i hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau iddo? Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynnaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy; ac yno y casglaf fy holl ffrwythau, a’m da. A dywedaf wrth fy enaid, Fy enaid, y mae gennyt dda lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd: gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen. Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynnant dy enaid oddi wrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a baratoaist? Felly y mae’r hwn sydd yn trysori iddo’i hun, ac nid yw gyfoethog tuag at Dduw. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymerwch ofal am eich bywyd, beth a fwytaoch; nac am eich corff, beth a wisgoch. Y mae’r bywyd yn fwy na’r ymborth, a’r corff yn fwy na’r dillad. Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau nac yn medi; i’r rhai nid oes gell nac ysgubor; ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na’r adar? A phwy ohonoch, gan gymryd gofal, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli? Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymryd gofal am y lleill? Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu: ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn. Ac os yw Duw felly yn dilladu’r llysieuyn, yr hwn sydd heddiw yn y maes, ac yfory a deflir i’r ffwrn: pa faint mwy y dillada efe chwychwi, O rai o ychydig ffydd? Chwithau na cheisiwch beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; ac na fyddwch amheus. Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisiau’r pethau hyn. Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw; a’r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg. Nac ofna, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas. Gwerthwch yr hyn sydd gennych, a rhoddwch elusen: gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiant; trysor yn y nefoedd, yr hwn ni dderfydd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra pryf.