Luc 1:67-79
Luc 1:67-79 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Sachareias, tad y plentyn, yn cael ei lenwi â’r Ysbryd Glân, ac yn proffwydo fel hyn: “Molwch yr Arglwydd – Duw Israel! Mae wedi dod i ollwng ei bobl yn rhydd. Mae wedi anfon un cryf i’n hachub ni – un yn perthyn i deulu ei was, y Brenin Dafydd. Dyma’n union addawodd ymhell yn ôl, drwy ei broffwydi sanctaidd: Bydd yn ein hachub ni rhag ein gelynion ac o afael pawb sy’n ein casáu ni. Mae wedi trugarhau, fel yr addawodd i’n cyndeidiau, ac wedi cofio’r ymrwymiad cysegredig a wnaeth pan aeth ar ei lw i Abraham: i’n hachub ni o afael ein gelynion, i ni allu ei wasanaethu heb ofni neb na dim, a byw yn bobl sanctaidd a chyfiawn tra byddwn fyw. A thithau, fy mab bach, byddi di’n cael dy alw yn broffwyd i’r Duw Goruchaf; oherwydd byddi’n mynd o flaen yr Arglwydd i baratoi’r ffordd ar ei gyfer. Byddi’n dangos i’w bobl sut mae cael eu hachub drwy i’w pechodau gael eu maddau. Oherwydd mae Duw yn dirion ac yn drugarog, ac mae ei oleuni ar fin gwawrio arnon ni o’r nefoedd. Bydd yn disgleirio ar y rhai sy’n byw yn y tywyllwch gyda chysgod marwolaeth drostyn nhw, ac yn ein harwain ar hyd llwybr heddwch.”
Luc 1:67-79 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Llanwyd Sachareias ei dad ef â'r Ysbryd Glân, a phroffwydodd fel hyn: “Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel am iddo ymweld â'i bobl a'u prynu i ryddid; cododd waredigaeth gadarn i ni yn nhŷ Dafydd ei was— fel y llefarodd trwy enau ei broffwydi sanctaidd yn yr oesoedd a fu— gwaredigaeth rhag ein gelynion ac o afael pawb sydd yn ein casáu; fel hyn y cymerodd drugaredd ar ein hynafiaid, a chofio ei gyfamod sanctaidd, y llw a dyngodd wrth Abraham ein tad, y rhoddai inni gael ein hachub o afael gelynion, a'i addoli yn ddiofn mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd. A thithau, fy mhlentyn, gelwir di yn broffwyd y Goruchaf, oherwydd byddi'n cerdded o flaen yr Arglwydd i baratoi ei lwybrau, i roi i'w bobl wybodaeth am waredigaeth trwy faddeuant eu pechodau. Hyn yw trugaredd calon ein Duw— fe ddaw â'r wawrddydd oddi uchod i'n plith, i lewyrchu ar y rhai sy'n eistedd yn nhywyllwch cysgod angau, a chyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.”
Luc 1:67-79 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’i dad ef Sachareias a gyflawnwyd o’r Ysbryd Glân, ac a broffwydodd, gan ddywedyd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i’w bobl; Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr; Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd: Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion; I gwblhau’r drugaredd â’n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod: Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni, Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddi-ofn, Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd. A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef; I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl, trwy faddeuant o’u pechodau, Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder, I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.