Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 1:57-80

Luc 1:57-80 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Pan ddaeth yr amser i fabi Elisabeth gael ei eni, bachgen bach gafodd hi. Clywodd ei chymdogion a’i pherthnasau y newyddion, ac roedden nhw i gyd yn hapus hefyd fod yr Arglwydd wedi bod mor garedig wrthi hi. Wythnos ar ôl i’r babi gael ei eni roedd pawb wedi dod i seremoni enwaedu y bachgen, ac yn cymryd yn ganiataol mai Sachareias fyddai’n cael ei alw, yr un fath â’i dad. Ond dyma Elisabeth yn dweud yn glir, “Na! Ioan fydd ei enw.” “Beth?” medden nhw, “Does neb yn y teulu gyda’r enw yna.” Felly dyma nhw’n gwneud arwyddion i ofyn i Sachareias beth oedd e eisiau galw’i fab. Gofynnodd am lechen i ysgrifennu arni, ac er syndod i bawb, ysgrifennodd y geiriau, “Ioan ydy ei enw.” Yr eiliad honno cafodd ei allu i siarad yn ôl, a dechreuodd foli Duw. Roedd ei gymdogion i gyd wedi’u syfrdanu, ac roedd pawb drwy ardal bryniau Jwdea yn siarad am beth oedd wedi digwydd. Roedd pawb yn gofyn, “Beth fydd hanes y plentyn yma?” Roedd hi’n amlwg i bawb fod llaw Duw arno. Dyma Sachareias, tad y plentyn, yn cael ei lenwi â’r Ysbryd Glân, ac yn proffwydo fel hyn: “Molwch yr Arglwydd – Duw Israel! Mae wedi dod i ollwng ei bobl yn rhydd. Mae wedi anfon un cryf i’n hachub ni – un yn perthyn i deulu ei was, y Brenin Dafydd. Dyma’n union addawodd ymhell yn ôl, drwy ei broffwydi sanctaidd: Bydd yn ein hachub ni rhag ein gelynion ac o afael pawb sy’n ein casáu ni. Mae wedi trugarhau, fel yr addawodd i’n cyndeidiau, ac wedi cofio’r ymrwymiad cysegredig a wnaeth pan aeth ar ei lw i Abraham: i’n hachub ni o afael ein gelynion, i ni allu ei wasanaethu heb ofni neb na dim, a byw yn bobl sanctaidd a chyfiawn tra byddwn fyw. A thithau, fy mab bach, byddi di’n cael dy alw yn broffwyd i’r Duw Goruchaf; oherwydd byddi’n mynd o flaen yr Arglwydd i baratoi’r ffordd ar ei gyfer. Byddi’n dangos i’w bobl sut mae cael eu hachub drwy i’w pechodau gael eu maddau. Oherwydd mae Duw yn dirion ac yn drugarog, ac mae ei oleuni ar fin gwawrio arnon ni o’r nefoedd. Bydd yn disgleirio ar y rhai sy’n byw yn y tywyllwch gyda chysgod marwolaeth drostyn nhw, ac yn ein harwain ar hyd llwybr heddwch.” Tyfodd y plentyn Ioan yn fachgen cryf yn ysbrydol. Yna aeth i fyw i’r anialwch nes iddo gael ei anfon i gyhoeddi ei neges i bobl Israel.

Luc 1:57-80 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Am Elisabeth, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, a ganwyd iddi fab. Clywodd ei chymdogion a'i pherthnasau am drugaredd fawr yr Arglwydd iddi, ac yr oeddent yn llawenychu gyda hi. A'r wythfed dydd daethant i enwaedu ar y plentyn, ac yr oeddent am ei enwi ar ôl ei dad, Sachareias. Ond atebodd ei fam, “Nage, Ioan yw ei enw i fod.” Meddent wrthi, “Nid oes neb o'th deulu â'r enw hwnnw arno.” Yna gofynasant drwy arwyddion i'w dad sut y dymunai ef ei enwi. Galwodd yntau am lechen fach ac ysgrifennodd, “Ioan yw ei enw.” A synnodd pawb. Ar unwaith rhyddhawyd ei enau a'i dafod, a dechreuodd lefaru a bendithio Duw. Daeth ofn ar eu holl gymdogion, a bu trafod ar yr holl ddigwyddiadau hyn trwy fynydd-dir Jwdea i gyd; a chadwyd hwy ar gof gan bawb a glywodd amdanynt. “Beth gan hynny fydd y plentyn hwn?” meddent. Ac yn wir yr oedd llaw'r Arglwydd gydag ef. Llanwyd Sachareias ei dad ef â'r Ysbryd Glân, a phroffwydodd fel hyn: “Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel am iddo ymweld â'i bobl a'u prynu i ryddid; cododd waredigaeth gadarn i ni yn nhŷ Dafydd ei was— fel y llefarodd trwy enau ei broffwydi sanctaidd yn yr oesoedd a fu— gwaredigaeth rhag ein gelynion ac o afael pawb sydd yn ein casáu; fel hyn y cymerodd drugaredd ar ein hynafiaid, a chofio ei gyfamod sanctaidd, y llw a dyngodd wrth Abraham ein tad, y rhoddai inni gael ein hachub o afael gelynion, a'i addoli yn ddiofn mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd. A thithau, fy mhlentyn, gelwir di yn broffwyd y Goruchaf, oherwydd byddi'n cerdded o flaen yr Arglwydd i baratoi ei lwybrau, i roi i'w bobl wybodaeth am waredigaeth trwy faddeuant eu pechodau. Hyn yw trugaredd calon ein Duw— fe ddaw â'r wawrddydd oddi uchod i'n plith, i lewyrchu ar y rhai sy'n eistedd yn nhywyllwch cysgod angau, a chyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.” Yr oedd y plentyn yn tyfu ac yn cryfhau yn ei ysbryd; a bu yn yr anialwch hyd y dydd y dangoswyd ef i Israel.

Luc 1:57-80 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor; a hi a esgorodd ar fab. A’i chymdogion a’i chenedl a glybu fawrhau o’r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gydlawenychasant â hi. A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a’i galwasant ef Sachareias, yn ôl enw ei dad. A’i fam a atebodd ac a ddywedodd, Nid felly; eithr Ioan y gelwir ef. Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o’th genedl a elwir ar yr enw hwn. A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef. Yntau a alwodd am argrafflech, ac a ysgrifennodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll. Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a’i dafod ef; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw. A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd-dir Jwdea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll. A phawb a’r a’u clywsant, a’u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedyd, Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw’r Arglwydd oedd gydag ef. A’i dad ef Sachareias a gyflawnwyd o’r Ysbryd Glân, ac a broffwydodd, gan ddywedyd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i’w bobl; Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr; Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd: Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion; I gwblhau’r drugaredd â’n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod: Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni, Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddi-ofn, Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd. A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef; I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl, trwy faddeuant o’u pechodau, Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder, I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd. A’r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhawyd yn yr ysbryd, ac a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i’r Israel.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd