Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 1:57-80

Luc 1:57-80 BWM

A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor; a hi a esgorodd ar fab. A’i chymdogion a’i chenedl a glybu fawrhau o’r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gydlawenychasant â hi. A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a’i galwasant ef Sachareias, yn ôl enw ei dad. A’i fam a atebodd ac a ddywedodd, Nid felly; eithr Ioan y gelwir ef. Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o’th genedl a elwir ar yr enw hwn. A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef. Yntau a alwodd am argrafflech, ac a ysgrifennodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll. Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a’i dafod ef; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw. A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd-dir Jwdea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll. A phawb a’r a’u clywsant, a’u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedyd, Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw’r Arglwydd oedd gydag ef. A’i dad ef Sachareias a gyflawnwyd o’r Ysbryd Glân, ac a broffwydodd, gan ddywedyd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i’w bobl; Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr; Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd: Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion; I gwblhau’r drugaredd â’n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod: Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni, Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddi-ofn, Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd. A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef; I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl, trwy faddeuant o’u pechodau, Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder, I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd. A’r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhawyd yn yr ysbryd, ac a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i’r Israel.