Lefiticus 25:23-28
Lefiticus 25:23-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dydy tir ddim i gael ei werthu am byth. Fi sydd biau’r tir. Mewnfudwyr neu denantiaid sy’n byw arno dros dro ydych chi. Pan mae tir yn cael ei werthu, rhaid i’r gwerthwr fod â’r hawl i’w brynu yn ôl. “Os ydy un o’ch pobl chi yn mynd mor dlawd nes bod rhaid iddo werthu peth o’i dir, mae gan ei berthynas agosaf hawl i ddod a prynu’r tir yn ôl. Lle does dim perthynas agosaf yn gallu prynu’r tir, mae’r gwerthwr ei hun yn gallu ei brynu os ydy e’n llwyddo i ennill digon o arian i wneud hynny. Dylai gyfri faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers iddo werthu’r tir, talu’r gwahaniaeth i’r person wnaeth ei brynu, a chymryd y tir yn ôl. Os nad oes ganddo ddigon i brynu ei dir yn ôl, mae’r tir i aros yn nwylo’r prynwr hyd flwyddyn y rhyddhau mawr. Bydd yn ei gael yn ôl beth bynnag y flwyddyn honno.
Lefiticus 25:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“ ‘Ni ellir gwerthu tir yn barhaol, oherwydd eiddof fi yw'r tir, ac nid ydych chwi ond estroniaid a thenantiaid i mi. Trwy holl wlad eich treftadaeth, byddwch barod i ryddhau tir a werthwyd. Os bydd un ohonoch yn dlawd ac yn gwerthu rhan o'i dreftadaeth, caiff ei berthynas agosaf ddod a rhyddhau'r hyn a werthodd. Os bydd heb berthynas i'w ryddhau, ac yntau wedyn yn llwyddo ac yn ennill digon i'w ryddhau, y mae i gyfrif y blynyddoedd er pan werthodd ef, ac ad-dalu am hynny i'r gwerthwr, ac yna caiff ddychwelyd i'w dreftadaeth. Os na fydd wedi ennill digon i ad-dalu iddo, bydd yr hyn a werthodd yn eiddo i'r prynwr hyd flwyddyn y jwbili; fe'i dychwelir ym mlwyddyn y jwbili a chaiff y gwerthwr ddychwelyd i'w dreftadaeth.
Lefiticus 25:23-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r tir ni cheir ei werthu yn llwyr: canys eiddof fi yw y tir; oherwydd dieithriaid ac alltudion ydych gyda mi. Ac yn holl dir eich etifeddiaeth rhoddwch ollyngdod i’r tir. Os tloda dy frawd, a gwerthu dim o’i etifeddiaeth, a dyfod ei gyfnesaf i’w ollwng; yna efe a gaiff ollwng yr hyn a werthodd ei frawd. Ond os y gŵr ni bydd ganddo neb a’i gollyngo, a chyrhaeddyd o’i law ef ei hun gael digon i’w ollwng: Yna cyfrifed flynyddoedd ei werthiad, a rhodded drachefn yr hyn fyddo dros ben i’r gŵr yr hwn y gwerthodd ef iddo; felly aed eilwaith i’w etifeddiaeth. Ac os ei law ni chaiff ddigon i dalu iddo; yna bydded yr hyn a werthodd efe yn llaw yr hwn a’i prynodd hyd flwyddyn y jiwbili; ac yn y jiwbili yr â yn rhydd, ac efe a ddychwel i’w etifeddiaeth.