Lefiticus 25
25
1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ym mynydd Sinai, gan ddywedyd, 2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i’r tir yr hwn a roddaf i chwi; yna gorffwysed y tir Saboth i’r Arglwydd. 3Chwe blynedd yr heui dy faes, a chwe blynedd y torri dy winllan, ac y cesgli ei chnwd. 4Ac ar y seithfed flwyddyn y bydd Saboth gorffwystra i’r tir, sef Saboth i’r Arglwydd: na heua dy faes, ac na thor dy winllan. 5Na chynaeafa yr hyn a dyfo ohono ei hun, ac na chasgl rawnwin dy winwydden ni theclaist: bydd yn flwyddyn orffwystra i’r tir. 6Ond bydded ffrwyth Saboth y tir yn ymborth i chwi; sef i ti, ac i’th wasanaethwr, ac i’th wasanaethferch, ac i’th weinidog cyflog, ac i’th alltud yr hwn a ymdeithio gyda thi. 7I’th anifail hefyd, ac i’r bwystfil fydd yn dy dir, y bydd ei holl gnwd yn ymborth.
8Cyfrif hefyd i ti saith Saboth o flynyddoedd, sef saith mlynedd seithwaith; dyddiau y saith Saboth o flynyddoedd fyddant i ti yn naw mlynedd a deugain. 9Yna pâr ganu i ti utgorn y jiwbili ar y seithfed mis, ar y degfed dydd o’r mis; ar ddydd y cymod cenwch yr utgorn trwy eich holl wlad. 10A sancteiddiwch y ddegfed flwyddyn a deugain, a chyhoeddwch ryddid yn y wlad i’w holl drigolion: jiwbili fydd hi i chwi; a dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth, ie, dychwelwch bob un at ei deulu. 11Y ddegfed flwyddyn a deugain honno fydd jiwbili i chwi: na heuwch, ac na fedwch ei chnwd a dyfo ohono ei hun; ac na chynullwch ei gwinwydden ni thaclwyd. 12Am ei bod yn jiwbili, bydded sanctaidd i chwi: o’r maes y bwytewch ei ffrwyth hi. 13O fewn y flwyddyn jiwbili hon y dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth. 14Pan werthech ddim i’th gymydog, neu brynu ar law dy gymydog, na orthrymwch bawb eich gilydd. 15Prŷn gan dy gymydog yn ôl rhifedi’r blynyddoedd ar ôl y jiwbili; a gwerthed efe i tithau yn ôl rhifedi blynyddoedd y cnydau. 16Yn ôl amldra’r blynyddoedd y chwanegi ei bris, ac yn ôl anamldra’r blynyddoedd y lleihei di ei bris; oherwydd rhifedi’r cnydau y mae efe yn ei werthu i ti. 17Ac na orthrymwch bob un ei gymydog; ond ofna dy Dduw: canys myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi.
18Gwnewch chwithau fy neddfau, a chedwch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt; a chewch drigo yn y tir yn ddiogel. 19Y tir hefyd a rydd ei ffrwyth; a chewch fwyta digon, a thrigo ynddo yn ddiogel. 20Ac hefyd os dywedwch, Beth a fwytawn y seithfed flwyddyn? wele, ni chawn hau, ac ni chawn gynnull ein cnwd: 21Yna mi a archaf fy mendith arnoch y chweched flwyddyn; a hi a ddwg ei ffrwyth i wasanaethu dros dair blynedd. 22A’r wythfed flwyddyn yr heuwch; ond bwytewch o’r hen gnwd hyd y nawfed flwyddyn: nes dyfod ei chnwd hi, y bwytewch o’r hen.
23A’r tir ni cheir ei werthu yn llwyr: canys eiddof fi yw y tir; oherwydd dieithriaid ac alltudion ydych gyda mi. 24Ac yn holl dir eich etifeddiaeth rhoddwch ollyngdod i’r tir.
25Os tloda dy frawd, a gwerthu dim o’i etifeddiaeth, a dyfod ei gyfnesaf i’w ollwng; yna efe a gaiff ollwng yr hyn a werthodd ei frawd. 26Ond os y gŵr ni bydd ganddo neb a’i gollyngo, a chyrhaeddyd o’i law ef ei hun gael digon i’w ollwng: 27Yna cyfrifed flynyddoedd ei werthiad, a rhodded drachefn yr hyn fyddo dros ben i’r gŵr yr hwn y gwerthodd ef iddo; felly aed eilwaith i’w etifeddiaeth. 28Ac os ei law ni chaiff ddigon i dalu iddo; yna bydded yr hyn a werthodd efe yn llaw yr hwn a’i prynodd hyd flwyddyn y jiwbili; ac yn y jiwbili yr â yn rhydd, ac efe a ddychwel i’w etifeddiaeth. 29A phan wertho gŵr dŷ annedd o fewn dinas gaerog; yna bydded ei ollyngdod hyd ben blwyddyn gyflawn wedi ei werthu: dros flwyddyn y bydd rhydd ei ollwng ef. 30Ac oni ollyngir cyn cyflawni iddo flwyddyn gyfan; yna sicrhaer y tŷ, yr hwn fydd yn y ddinas gaerog, yn llwyr i’r neb a’i prynodd, ac i’w hiliogaeth: nid â yn rhydd yn y jiwbili. 31Ond tai y trefi nid oes caerau o amgylch iddynt, a gyfrifir fel meysydd: bid gollyngdod iddynt, ac yn y jiwbili yr ânt yn rhydd. 32Ond dinasoedd y Lefiaid, a thai dinasoedd eu hetifeddiaeth hwynt, bid i’r Lefiaid eu gollwng bob amser. 33Ac os prŷn un gan y Lefiaid; yna aed y tŷ a werthwyd, a dinas ei etifeddiaeth ef, allan yn y jiwbili: canys tai dinasoedd y Lefiaid ydyw eu hetifeddiaeth hwynt ymysg meibion Israel. 34Ac ni cheir gwerthu maes pentrefol eu dinasoedd hwynt: canys etifeddiaeth dragwyddol yw efe iddynt.
35A phan dlodo dy frawd gyda thi, a llesgáu o’i law; cynorthwya ef, fel y byddo byw gyda thi; er ei fod yn ddieithrddyn, neu yn alltud. 36Na chymer ganddo ocraeth na llog; ond ofna dy Dduw: a gad i’th frawd fyw gyda thi. 37Na ddod dy arian iddo ar usuriaeth, ac na ddod dy fwyd iddo ar log. 38Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aifft, i roddi i chwi dir Canaan, ac i fod yn Dduw i chwi.
39A phan dlodo dy frawd gyda thi, a’i werthu ef i ti; na wna iddo wasanaethu yn gaethwas. 40Bydded gyda thi fel gweinidog cyflog, fel ymdeithydd; hyd flwyddyn y jiwbili y caiff wasanaethu gyda thi. 41Yna aed oddi wrthyt ti, efe a’i blant gydag ef, a dychweled at ei dylwyth, ac aed drachefn i etifeddiaeth ei dadau. 42Canys fy ngweision i ydynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft: na werther hwynt fel caethweision. 43Na feistrola arno ef yn galed; ond ofna dy Dduw. 44A chymer dy wasanaethwr, a’th wasanaethferch, y rhai fyddant i ti, o fysg y cenhedloedd y rhai ydynt o’ch amgylch: ohonynt y prynwch wasanaethwr a gwasanaethferch. 45A hefyd o blant yr alltudion y rhai a ymdeithiant gyda chwi, prynwch o’r rhai hyn, ac o’u tylwyth y rhai ŷnt gyda chwi, y rhai a genedlasant hwy yn eich tir chwi: byddant hwy i chwi yn feddiant. 46Ac etifeddwch hwynt i’ch plant ar eich ôl, i’w meddiannu hwynt yn etifeddiaeth; gwnewch iddynt eich gwasanaethu byth: ond eich brodyr, meibion Israel, na feistrolwch yn galed y naill ar y llall.
47A phan gyrhaeddo llaw dyn dieithr neu ymdeithydd gyfoeth gyda thi, ac i’th frawd dlodi yn ei ymyl ef, a’i werthu ei hun i’r dieithr yr hwn fydd yn trigo gyda thi, neu i un o hiliogaeth tylwyth y dieithrddyn: 48Wedi ei werthu, ceir ei ollwng yn rhydd; un o’i frodyr a gaiff ei ollwng yn rhydd; 49Naill ai ei ewythr, ai mab ei ewythr, a’i gollwng ef yn rhydd; neu un o’i gyfnesaf ef, o’i dylwyth ei hun, a’i gollwng yn rhydd; neu, os ei law a gyrraedd, gollynged efe ef ei hun. 50A chyfrifed â’i brynwr, o’r flwyddyn y gwerthwyd ef, hyd flwyddyn y jiwbili: a bydded arian ei werthiad ef fel rhifedi’r blynyddoedd; megis dyddiau gweinidog cyflog y bydd gydag ef. 51Os llawer fydd o flynyddoedd yn ôl; taled ei ollyngdod o arian ei brynedigaeth yn ôl hynny. 52Ac os ychydig flynyddoedd fydd yn ôl hyd flwyddyn y jiwbili, pan gyfrifo ag ef; taled ei ollyngdod yn ôl ei flynyddoedd. 53Megis gwas cyflog o flwyddyn i flwyddyn y bydd efe gydag ef: ac na feistroled arno yn galed yn dy olwg di. 54Ac os efe ni ollyngir o fewn y blynyddoedd hyn; yna aed allan flwyddyn y jiwbili, efe a’i blant gydag ef. 55Canys gweision i mi yw meibion Israel; fy ngweision ydynt, y rhai a ddygais o dir yr Aifft: myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi.
Dewis Presennol:
Lefiticus 25: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.