Galarnad 4:1-5
Galarnad 4:1-5 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
O! Mae’r aur wedi colli ei sglein. Dydy’r aur pur ddim yn edrych fel aur ddim mwy! Mae gemau gwerthfawr ar chwâl ar gornel pob stryd. Roedd plant gwerthfawr Seion yn werth eu pwysau mewn aur. Ond bellach – O! maen nhw mor ddiwerth a photiau pridd wedi’u gwneud gan grochenydd! Mae hyd yn oed y siacal yn magu ei rai bach ac yn eu bwydo ar y fron, ond mae fy mhobl i yn esgeulus o’u plant fel yr estrys yn yr anialwch. Mae tafodau’r babanod yn glynu i dop eu cegau am fod syched arnyn nhw. Mae plant bach yn cardota am fwyd, ond does neb yn rhoi unrhyw beth iddyn nhw. Mae’r bobl oedd yn arfer gwledda ar fwydydd moethus yn marw o newyn ar y strydoedd. Mae’r rhai gafodd eu magu mewn dillad crand yn crafu drwy’r sbwriel am rywbeth bach.
Galarnad 4:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O fel y pylodd yr aur, ac y newidiodd yr aur coeth! Gwasgarwyd meini'r cysegr ym mhen pob stryd. Plant gwerthfawr Seion, a oedd yn werth eu pwysau mewn aur, yn awr yn cael eu hystyried fel llestri pridd, gwaith dwylo crochenydd! Y mae hyd yn oed siacaliaid yn dinoethi'r fron i roi sugn i'w hepil, ond y mae merch fy mhobl wedi mynd yn greulon, fel estrys yn yr anialwch. Y mae tafod y plentyn sugno yn glynu wrth ei daflod o syched; y mae'r plant yn cardota bara, heb neb yn ei roi iddynt. Y mae'r rhai a arferai fwyta danteithion yn ddiymgeledd yn y strydoedd, a'r rhai a fagwyd mewn ysgarlad yn ymgreinio ar domennydd ysbwriel.
Galarnad 4:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pa fodd y tywyllodd yr aur! y newidiodd yr aur coeth da! taflwyd cerrig y cysegr ym mhen pob heol. Gwerthfawr feibion Seion, a chystal ag aur pur, pa fodd y cyfrifwyd hwynt fel ystenau pridd, gwaith dwylo’r crochenydd! Y dreigiau a dynnant allan eu bronnau, a roddant sugn i’w cenawon: merch fy mhobl a aeth yn greulon, fel yr estrysiaid yn yr anialwch. Tafod y plentyn sugno sydd yn glynu wrth daflod ei enau gan syched: y plant a ofynnant fara, ond nid oedd a dorrai iddynt. Y rhai a ymborthent yn foethus, a ddifethwyd yn yr heolydd: y rhai a feithrinwyd mewn ysgarlad, a gofleidiant y tomennydd.