Galarnad 3:40-57
Galarnad 3:40-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydded inni chwilio a phrofi ein ffyrdd, a dychwelyd at yr ARGLWYDD, a dyrchafu'n calonnau a'n dwylo at Dduw yn y nefoedd. Yr ydym ni wedi troseddu a gwrthryfela, ac nid wyt ti wedi maddau. Yr wyt yn llawn dig ac yn ein herlid, yn lladd yn ddiarbed. Ymguddiaist mewn cwmwl rhag i'n gweddi ddod atat. Gwnaethost ni'n ysbwriel ac yn garthion ymysg y bobloedd. Y mae'n holl elynion yn gweiddi'n groch yn ein herbyn. Fe'n cawsom ein hunain mewn dychryn a magl, hefyd mewn difrod a dinistr. Y mae fy llygad yn ffrydiau o ddŵr o achos dinistr merch fy mhobl; y mae'n diferu'n ddi-baid, heb gael gorffwys, hyd onid edrycha'r ARGLWYDD a gweld o'r nefoedd. Y mae fy llygad yn flinder imi o achos dinistr holl ferched fy ninas. Y mae'r rhai sy'n elynion imi heb achos yn fy erlid yn wastad fel aderyn. Y maent yn fy mwrw'n fyw i'r pydew, ac yn taflu cerrig arnaf. Llifodd y dyfroedd trosof, a dywedais, “Y mae ar ben arnaf.” Gelwais ar d'enw, O ARGLWYDD, o waelod y pydew. Clywaist fy llef: “Paid â throi'n glustfyddar i'm cri am gymorth.” Daethost yn agos ataf y dydd y gelwais arnat; dywedaist, “Paid ag ofni.”
Galarnad 3:40-57 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gadewch i ni edrych yn fanwl ar ein ffordd o fyw, a throi nôl at yr ARGLWYDD. Gadewch i ni droi’n calonnau a chodi’n dwylo at Dduw yn y nefoedd, a chyffesu, “Dŷn ni wedi gwrthryfela’n ddifrifol, a ti ddim wedi maddau i ni. Rwyt wedi gwisgo dy lid amdanat a dod ar ein holau, gan ladd pobl heb ddangos trugaredd. Ti wedi cuddio dy hun mewn cwmwl nes bod ein gweddïau ddim yn torri trwodd. Ti wedi’n gwneud ni fel sbwriel a baw yng ngolwg y bobloedd. Mae ein gelynion i gyd yn gwneud hwyl am ein pennau. Mae panig a’r pydew wedi’n dal ni, difrod a dinistr.” Mae afonydd o ddagrau yn llifo o’m llygaid am fod fy mhobl wedi cael eu dinistrio. Mae’r dagrau’n llifo yn ddi-baid; wnân nhw ddim stopio nes bydd yr ARGLWYDD yn edrych i lawr o’r nefoedd ac yn ein gweld ni. Mae gweld beth sydd wedi digwydd i ferched ifanc fy ninas yn fy ngwneud i mor drist. Mae fy ngelynion wedi fy nal fel aderyn, heb reswm da i wneud hynny. Maen nhw wedi fy nhaflu i waelod pydew ac yna ei gau gyda charreg. Roedd y dŵr yn codi uwch fy mhen; rôn i’n meddwl mod i’n mynd i foddi. Ond dyma fi’n galw arnat ti am help, O ARGLWYDD, o waelod y pydew. Dyma ti’n fy nghlywed i’n pledio, “Helpa fi! Paid gwrthod gwrando arna i!” A dyma ti’n dod ata i pan o’n i’n galw, a dweud, “Paid bod ag ofn!”
Galarnad 3:40-57 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr ARGLWYDD. Dyrchafwn ein calonnau a’n dwylo at DDUW yn y nefoedd. Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufudd; tithau nid arbedaist. Gorchuddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist. Ti a’th guddiaist dy hun â chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd. Ti a’n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl. Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn. Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr. Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr, oherwydd dinistr merch fy mhobl. Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorffwystra; Hyd oni edrycho, ac oni ystyrio yr ARGLWYDD o’r nefoedd. Y mae fy llygad yn blino fy enaid, oherwydd holl ferched fy ninas. Fy ngelynion gan hela a’m heliasant yn ddiachos, fel aderyn. Torasant ymaith fy einioes yn y pwll, a bwriasant gerrig arnaf. Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen: dywedais, Torrwyd fi ymaith. Gelwais ar dy enw di, O ARGLWYDD, o’r pwll isaf. Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhag fy uchenaid a’m gwaedd. Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat: dywedaist, Nac ofna.