Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galarnad 3:1-24

Galarnad 3:1-24 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Dw i’n ddyn sy’n gwybod beth ydy dioddef. Mae gwialen llid Duw wedi fy nisgyblu i. Mae e wedi fy ngyrru i ffwrdd i fyw yng nghanol tywyllwch dudew. Ydy, mae wedi fy nharo i dro ar ôl tro, yn ddi-stop. Mae wedi curo fy nghorff yn ddim, ac wedi torri fy esgyrn. Mae fel byddin wedi fy amgylchynu, yn ymosod arna i gyda gwasgfa chwerw. Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwch fel y rhai sydd wedi marw ers talwm. Mae wedi cau amdana i, ac alla i ddim dianc. Mae’n fy nal i lawr gyda chadwyni trwm. Dw i’n gweiddi’n daer am help, ond dydy e’n cymryd dim sylw. Mae wedi blocio pob ffordd allan; mae pob llwybr fel drysfa! Mae e fel arth neu lew yn barod i ymosod arna i. Llusgodd fi i ffwrdd a’m rhwygo’n ddarnau. Allwn i wneud dim i amddiffyn fy hun. Anelodd ei fwa saeth ata i; fi oedd ei darged. Gollyngodd ei saethau a’m trywanu yn fy mherfedd. Mae fy mhobl wedi fy ngwneud i’n destun sbort, ac yn fy ngwawdio i ar gân. Mae e wedi gwneud i mi fwyta llysiau chwerw; mae wedi llenwi fy mol gyda’r wermod. Mae wedi gwneud i mi gnoi graean, ac wedi rhwbio fy wyneb yn y baw. Does gen i ddim tawelwch meddwl; dw i wedi anghofio beth ydy bod yn hapus. Dwedais, “Alla i ddim cario mlaen. Dw i wedi colli pob gobaith yn yr ARGLWYDD.” Mae meddwl amdana i fy hun yn dlawd a digartref yn brofiad chwerw! Mae ar fy meddwl drwy’r amser, ac mae’n fy ngwneud yn isel fy ysbryd. Ond wedyn dw i’n cofio hyn, a dyma sy’n rhoi gobaith i mi: Mae cariad ffyddlon yr ARGLWYDD yn ddiddiwedd, a’i garedigrwydd e’n para am byth. Maen nhw’n dod yn newydd bob bore. “ARGLWYDD, rwyt ti mor anhygoel o ffyddlon!” “Dim ond yr ARGLWYDD sydd gen i,” meddwn i, “felly ynddo fe dw i’n gobeithio.”

Galarnad 3:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Myfi yw'r gŵr a welodd ofid dan wialen ei ddicter. Gyrrodd fi allan a gwneud imi gerdded trwy dywyllwch lle nad oedd goleuni. Daliodd i droi ei law yn f'erbyn, a hynny ddydd ar ôl dydd. Parodd i'm cnawd a'm croen ddihoeni, a maluriodd f'esgyrn. Gwnaeth warchae o'm cwmpas, a'm hamgylchynu â chwerwder a blinder. Gwnaeth i mi aros mewn tywyllwch, fel rhai wedi hen farw. Caeodd arnaf fel na allwn ddianc, a gosododd rwymau trwm amdanaf. Pan elwais, a gweiddi am gymorth, fe wrthododd fy ngweddi. Caeodd fy ffyrdd â meini mawrion, a gwneud fy llwybrau'n gam. Y mae'n gwylio amdanaf fel arth, fel llew yn ei guddfa. Tynnodd fi oddi ar y ffordd a'm dryllio, ac yna fy ngadael yn ddiymgeledd. Paratôdd ei fwa, a'm gosod yn nod i'w saeth. Anelodd saethau ei gawell a'u trywanu i'm perfeddion. Yr oeddwn yn gyff gwawd i'r holl bobloedd, yn destun caneuon gwatwarus drwy'r dydd. Llanwodd fi â chwerwder, a'm meddwi â'r wermod. Torrodd fy nannedd â cherrig, a gwneud imi grymu yn y lludw. Yr wyf wedi f'amddifadu o heddwch; anghofiais beth yw daioni. Yna dywedais, “Diflannodd fy nerth, a hefyd fy ngobaith oddi wrth yr ARGLWYDD.” Cofia fy nhrallod a'm crwydro, y wermod a'r bustl. Yr wyf fi yn ei gofio'n wastad, ac wedi fy narostwng. Meddyliaf yn wastad am hyn, ac felly disgwyliaf yn eiddgar. Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau. Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb. Dywedais, “Yr ARGLWYDD yw fy rhan, am hynny disgwyliaf wrtho.”

Galarnad 3:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Myfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef. I dywyllwch, ac nid i oleuni, yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi. Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe, ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd. Efe a wnaeth fy nghnawd a’m croen yn hen; efe a ddrylliodd fy esgyrn. Efe a adeiladodd i’m herbyn, ac a’m hamgylchodd â bustl ac â blinder. Efe a’m gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm. Efe a gaeodd o’m hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom. Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi. Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau. Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau. Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a’m drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi. Efe a anelodd ei fwa, ac a’m gosododd fel nod i saeth. Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i’m harennau. Gwatwargerdd oeddwn i’m holl bobl, a’u cân ar hyd y dydd. Efe a’m llanwodd â chwerwder; efe a’m meddwodd i â’r wermod. Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a’m trybaeddodd yn y llwch. A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch; anghofiais ddaioni. A mi a ddywedais, Darfu am fy nerth a’m gobaith oddi wrth yr ARGLWYDD. Cofia fy mlinder a’m gofid, y wermod a’r bustl. Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi. Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf. Trugareddau yr ARGLWYDD yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb. Yr ARGLWYDD yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd