Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galarnad 3:1-24

Galarnad 3:1-24 BWM

Myfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef. I dywyllwch, ac nid i oleuni, yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi. Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe, ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd. Efe a wnaeth fy nghnawd a’m croen yn hen; efe a ddrylliodd fy esgyrn. Efe a adeiladodd i’m herbyn, ac a’m hamgylchodd â bustl ac â blinder. Efe a’m gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm. Efe a gaeodd o’m hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom. Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi. Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau. Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau. Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a’m drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi. Efe a anelodd ei fwa, ac a’m gosododd fel nod i saeth. Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i’m harennau. Gwatwargerdd oeddwn i’m holl bobl, a’u cân ar hyd y dydd. Efe a’m llanwodd â chwerwder; efe a’m meddwodd i â’r wermod. Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a’m trybaeddodd yn y llwch. A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch; anghofiais ddaioni. A mi a ddywedais, Darfu am fy nerth a’m gobaith oddi wrth yr ARGLWYDD. Cofia fy mlinder a’m gofid, y wermod a’r bustl. Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi. Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf. Trugareddau yr ARGLWYDD yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb. Yr ARGLWYDD yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd