Galarnad 1:1-7
Galarnad 1:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O! Mae’r ddinas oedd yn fwrlwm o bobl yn eistedd mor unig! Mae’r ddinas oedd yn enwog drwy’r byd bellach yn wraig weddw. Roedd hi fel tywysoges y taleithiau, ond bellach mae’n gaethferch. Mae hi’n beichio crio drwy’r nos, a’r dagrau’n llifo i lawr ei hwyneb. Does dim un o’i chariadon yno i’w chysuro. Mae ei ffrindiau i gyd wedi’i bradychu ac wedi troi’n elynion iddi. Mae pobl Jwda wedi’u cymryd i ffwrdd yn gaethion; ar ôl diodde’n hir maen nhw’n gaethweision. Maen nhw’n byw mewn gwledydd eraill ac yn methu’n lân a setlo yno. Mae’r gelynion oedd yn eu herlid wedi’u dal; doedd ganddyn nhw ddim gobaith dianc. Mae’r ffyrdd gwag i Jerwsalem yn galaru; Does neb yn teithio i’r gwyliau i ddathlu. Does dim pobl yn mynd drwy giatiau’r ddinas. Dydy’r offeiriaid yn gwneud dim ond griddfan, ac mae’r merched ifanc, oedd yno’n canu a dawnsio, yn drist. Mae Jerwsalem mewn cyflwr truenus! Ei gelynion sy’n ei rheoli, ac mae bywyd mor braf iddyn nhw am fod yr ARGLWYDD wedi’i chosbi hi am wrthryfela yn ei erbyn mor aml. Mae ei phlant wedi’u cymryd i ffwrdd yn gaethion gan y gelyn. Mae popeth oedd hi’n ymfalchïo ynddo wedi’i gymryd oddi ar Jerwsalem. Roedd ei harweinwyr fel ceirw yn methu dod o hyd i borfa, ac yn rhy wan i ddianc oddi wrth yr heliwr. Mae Jerwsalem, sy’n dlawd a digartref, yn cofio ei holl drysorau – sef y pethau gwerthfawr oedd piau hi o’r blaen. Pan gafodd ei choncro gan ei gelynion doedd neb yn barod i’w helpu. Roedd ei gelynion wrth eu boddau, ac yn chwerthin yn ddirmygus wrth iddi gael ei dinistrio.
Galarnad 1:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O mor unig yw'r ddinas a fu'n llawn o bobl! Y mae'r un a fu'n fawr ymysg y cenhedloedd yn awr fel gweddw, a'r un a fu'n dywysoges y taleithiau dan lafur gorfod. Y mae'n wylo'n chwerw yn y nos, a dagrau ar ei gruddiau; nid oes ganddi neb i'w chysuro o blith ei holl gariadon; y mae ei chyfeillion i gyd wedi ei bradychu, ac wedi troi'n elynion iddi. Aeth Jwda i gaethglud mewn trallod ac mewn gorthrwm mawr; y mae'n byw ymysg y cenhedloedd, ond heb gael lle i orffwys; y mae ei holl erlidwyr wedi ei goddiweddyd yng nghanol ei gofidiau. Y mae ffyrdd Seion mewn galar am nad oes neb yn dod i'r gwyliau; y mae ei holl byrth yn anghyfannedd, a'i hoffeiriaid yn griddfan; y mae ei merched ifainc yn drallodus, a hithau mewn chwerwder. Daeth ei gwrthwynebwyr yn feistri arni, a llwyddodd ei gelynion, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dwyn trallod arni o achos amlder ei throseddau; y mae ei phlant wedi mynd ymaith yn gaethion o flaen y gelyn. Diflannodd y cyfan o'i hanrhydedd oddi wrth ferch Seion; y mae ei thywysogion fel ewigod sy'n methu cael porfa; y maent wedi ffoi, heb nerth, o flaen yr erlidwyr. Yn nydd ei thrallod a'i chyni y mae Jerwsalem yn cofio'r holl drysorau oedd ganddi yn y dyddiau gynt. Pan syrthiodd ei phobl i ddwylo'r gwrthwynebwyr, heb neb i'w chynorthwyo, edrychodd ei gwrthwynebwyr arni a chwerthin o achos ei dinistr.
Galarnad 1:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pa fodd y mae y ddinas aml ei phobl yn eistedd ei hunan! pa fodd y mae y luosog ymhlith y cenhedloedd megis yn weddw! pa fodd y mae tywysoges y taleithiau dan deyrnged! Y mae hi yn wylo yn hidl liw nos, ac y mae ei dagrau ar ei gruddiau, heb neb o’i holl gariadau yn ei chysuro: ei holl gyfeillion a fuant anghywir iddi, ac a aethant yn elynion iddi. Jwda a fudodd ymaith gan flinder, a chan faint caethiwed; y mae hi yn aros ymysg y cenhedloedd, heb gael gorffwystra: ei holl erlidwyr a’i goddiweddasant hi mewn lleoedd cyfyng. Y mae ffyrdd Seion yn galaru, o eisiau rhai yn dyfod i’r ŵyl arbennig: ei holl byrth hi sydd anghyfannedd, ei hoffeiriaid yn ucheneidio, ei morynion yn ofidus, a hithau yn flin arni. Ei gwrthwynebwyr ydynt bennaf, y mae ei gelynion yn ffynnu: canys yr ARGLWYDD a’i gofidiodd hi am amlder ei chamweddau: ei phlant a aethant i gaethiwed o flaen y gelyn. A holl harddwch merch Seion a ymadawodd â hi; y mae ei thywysogion hi fel hyddod heb gael porfa, ac yn myned yn ddi-nerth o flaen yr ymlidiwr. Y mae Jerwsalem, yn nyddiau ei blinder a’i chaledi, yn cofio ei holl hyfrydwch oedd iddi yn y dyddiau gynt, pan syrthiodd ei phobl hi yn llaw y gelyn, heb neb yn ei chynorthwyo hi: y gelynion a’i gwelsant hi, ac a chwarddasant am ben ei sabothau.