Josua 2:8-9
Josua 2:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Cyn i’r ysbiwyr fynd i gysgu’r noson honno, dyma Rahab yn mynd i fyny i’r to i siarad gyda nhw. Meddai wrthyn nhw, “Dw i’n gwybod yn iawn fod yr ARGLWYDD yn mynd i roi’r wlad yma i chi. Mae gan bawb eich ofn chi. Mae pawb yn ofni am eu bywydau.
Rhanna
Darllen Josua 2Josua 2:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cyn i'r ysbïwyr gysgu, aeth Rahab i fyny ar y to, a dweud wrthynt, “Gwn fod yr ARGLWYDD wedi rhoi'r wlad i chwi, a bod eich arswyd wedi syrthio arnom, a holl drigolion y wlad mewn gwewyr o'ch plegid.
Rhanna
Darllen Josua 2Josua 2:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A chyn iddynt hwy gysgu, hi a aeth i fyny atynt hwy ar nen y tŷ: A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o’r ARGLWYDD i chwi y wlad; oherwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag eich ofn.
Rhanna
Darllen Josua 2