Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 2

2
Anfon Ysbiwyr i Jericho
1Dyma Josua fab Nwn yn anfon dau ysbïwr allan o’r gwersyll yn Sittim, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi ddarganfod beth allwch chi am y wlad, yn arbennig tref Jericho.” Felly, i ffwrdd â nhw, a dyma nhw’n mynd i dŷ putain o’r enw Rahab, ac aros yno dros nos.
2Ond dyma rywun yn dweud wrth frenin Jericho, “Mae rhai o ddynion Israel wedi dod yma i ysbïo’r wlad.” 3Felly dyma’r brenin yn anfon milwyr at Rahab, “Tyrd â dy gwsmeriaid allan – y dynion sydd wedi dod i aros yn dy dŷ di. Ysbiwyr ydyn nhw, wedi dod i edrych dros y wlad.” 4Ond roedd Rahab wedi cuddio’r dynion, a dyma hi’n ateb, “Mae’n wir, roedd yna ddynion wedi dod ata i, ond doeddwn i ddim yn gwybod o ble roedden nhw’n dod. 5Pan oedd hi’n tywyllu, a giât y ddinas ar fin cael ei chau dros nos, dyma nhw’n gadael. Dw i ddim yn gwybod i ba gyfeiriad aethon nhw. Os brysiwch chi, gallwch chi eu dal nhw!” 6(Ond beth roedd Rahab wedi’i wneud go iawn oedd mynd â’r dynion i ben to’r tŷ, a’u cuddio nhw dan y pentyrrau o lin roedd hi wedi’u gosod allan yno.)
7Felly dyma weision y brenin yn mynd i chwilio amdanyn nhw ar hyd y ffordd sy’n arwain at afon Iorddonen, lle mae’r rhydau. A dyma giât y ddinas yn cael ei chau yn syth ar ôl iddyn nhw fynd.
8Cyn i’r ysbiwyr fynd i gysgu’r noson honno, dyma Rahab yn mynd i fyny i’r to i siarad gyda nhw. 9Meddai wrthyn nhw, “Dw i’n gwybod yn iawn fod yr ARGLWYDD yn mynd i roi’r wlad yma i chi. Mae gan bawb eich ofn chi. Mae pawb yn ofni am eu bywydau. 10Dŷn ni wedi clywed sut wnaeth yr ARGLWYDD sychu’r Môr Coch#2:10 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”. o’ch blaenau chi pan ddaethoch chi allan o’r Aifft. A hefyd, sut wnaethoch chi ddinistrio dau frenin yr Amoriaid, Sihon ac Og, yr ochr arall i afon Iorddonen.#Exodus 14:21; Numeri 21:21-35 11Pan glywson ni am y peth roedden ni wedi digalonni’n llwyr. Roedd pawb mewn panig. Mae’r ARGLWYDD eich Duw chi yn Dduw yn y nefoedd uchod ac i lawr yma ar y ddaear! 12Dw i eisiau i chi fynd ar eich llw, ac addo i mi o flaen yr ARGLWYDD, y byddwch chi’n arbed bywydau fy nheulu i, fel dw i wedi arbed eich bywydau chi. Rhowch arwydd sicr i mi 13na fyddwch chi’n lladd neb yn fy nheulu – dad, mam, fy mrodyr a’m chwiorydd, na neb arall yn y teulu.”
14A dyma’r dynion yn addo iddi, “Os wnei di ddim dweud wrth neb amdanon ni, byddwn ni’n cadw’n haddewid i ti pan fydd yr ARGLWYDD yn rhoi’r wlad yma i ni. Boed i ni dalu gyda’n bywydau os cewch chi’ch lladd!”
15Yna dyma Rahab yn eu gollwng nhw i lawr ar raff o ffenest ei thŷ. (Roedd wal allanol ei thŷ hi yn rhan o wal y ddinas.) 16“Ewch i gyfeiriad y bryniau,” meddai wrthyn nhw. “Fydd y dynion sydd ar eich ôl chi ddim yn dod o hyd i chi wedyn. Cuddiwch yno am dri diwrnod, i roi cyfle iddyn nhw ddod yn ôl. Wedyn gallwch fynd ar eich ffordd.” 17Dyma’r dynion yn dweud wrthi, “Allwn ni ddim ond cadw’r addewid wnaethon ni i ti ar un amod: 18Pan fyddwn ni’n ymosod ar y wlad, rhwyma’r rhaff goch yma iddi hongian allan o’r ffenest wnaethon ni ddianc drwyddi. A rhaid i ti gasglu dy deulu i gyd at ei gilydd yn y tŷ – dy dad, dy fam, dy frodyr a dy chwiorydd, a phawb arall. 19Os bydd unrhyw un yn gadael y tŷ ac yn cael ei ladd, nhw eu hunain fydd ar fai – fydd dim bai arnon ni. Ond os bydd unrhyw un sydd yn y tŷ yn cael niwed, ni fydd yn gyfrifol. 20Ond os byddi di’n dweud wrth unrhyw un amdanon ni, fyddwn ni ddim yn gyfrifol am dorri’r addewid.”
21“Digon teg,” meddai hithau. A dyma hi’n eu hanfon nhw i ffwrdd, ac yn rhwymo’r rhaff goch i’r ffenest. 22Dyma nhw’n mynd i’r bryniau, ac yn aros yno am dri diwrnod – digon o amser i’r dynion oedd yn chwilio amdanyn nhw fynd yn ôl. Roedd y rheiny wedi bod yn edrych amdanyn nhw ym mhobman ar hyd y ffordd, ond wedi methu dod o hyd iddyn nhw.
23Yna dyma’r ddau ddyn yn troi am yn ôl. Dyma nhw’n dod i lawr o’r bryniau, croesi afon Iorddonen, a mynd at Josua i roi adroddiad iddo o beth oedd wedi digwydd. 24“Does dim amheuaeth,” medden nhw. “Mae’r ARGLWYDD yn mynd i roi’r wlad i gyd i ni! Mae’r bobl i gyd yn ofni am eu bywydau!”

Dewis Presennol:

Josua 2: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda