Job 6:1-4
Job 6:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma Job yn ateb: “Petai fy rhwystredigaeth yn cael ei phwyso, a’m helyntion yn cael eu rhoi mewn clorian, bydden nhw’n drymach na holl dywod y môr! Dim syndod fy mod i wedi siarad yn fyrbwyll! Mae saethau’r Duw Hollalluog yn fy nghorff, ac mae fy ysbryd wedi sugno eu gwenwyn. Mae’r dychryn mae Duw yn ei achosi fel rhes o filwyr yn ymosod arna i.
Job 6:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd Job: “O na ellid pwyso fy nhrallod, a gosod fy aflwydd i gyd mewn clorian! Yna byddai'n drymach na thywod y môr; am hyn y bu fy ngeiriau yn fyrbwyll. Y mae saethau'r Hollalluog ynof; yfodd fy ysbryd eu gwenwyn; dychryn Duw sy'n gwarchae amdanaf.
Job 6:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Job a atebodd ac a ddywedodd, O gan bwyso na phwysid fy ngofid, ac na chydgodid fy nhrychineb mewn cloriannau! Canys yn awr trymach fyddai na thywod y môr: am hynny y pallodd geiriau gennyf. Oherwydd y mae saethau yr Hollalluog ynof, y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy ysbryd: dychrynfâu DUW a ymfyddinasant i’m herbyn.