Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 6

6
1A Job a atebodd ac a ddywedodd, 2O gan bwyso na phwysid fy ngofid, ac na chydgodid fy nhrychineb mewn cloriannau! 3Canys yn awr trymach fyddai na thywod y môr: am hynny y pallodd geiriau gennyf. 4Oherwydd y mae saethau yr Hollalluog ynof, y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy ysbryd: dychrynfâu Duw a ymfyddinasant i’m herbyn. 5A rua asyn gwyllt uwchben glaswellt? a fref ych uwchben ei borthiant? 6A fwyteir peth diflas heb halen? a oes blas ar wyn wy? 7Y pethau a wrthododd fy enaid eu cyffwrdd, sydd megis bwyd gofidus i mi. 8O na ddeuai fy nymuniad! ac na roddai Duw yr hyn yr ydwyf yn ei ddisgwyl! 9Sef rhyngu bodd i Dduw fy nryllio, a gollwng ei law yn rhydd, a’m torri ymaith. 10Yna cysur a fyddai eto i mi, ie, mi a ymgaledwn mewn gofid; nac arbeded, canys ni chelais ymadroddion y Sanctaidd. 11Pa nerth sydd i mi i obeithio? a pha ddiwedd fydd i mi, fel yr estynnwn fy hoedl? 12Ai cryfder cerrig yw fy nghryfder? a ydyw fy nghnawd o bres? 13Onid ydyw fy nghymorth ynof fi? a fwriwyd doethineb yn llwyr oddi wrthyf? 14I’r cystuddiol y byddai trugaredd oddi wrth ei gyfaill; ond efe a adawodd ofn yr Hollalluog. 15Fy mrodyr a’m twyllasant megis afon: aethant heibio fel llifeiriant afonydd; 16Y rhai a dduasant gan rew, ac yr ymguddiodd eira ynddynt: 17Yr amser y cynhesant, hwy a dorrir ymaith: pan wresogo yr hin, hwy a ddarfyddant allan o’u lle. 18Llwybrau eu ffordd hwy a giliant: hwy a ânt yn ddiddim, ac a gollir. 19Byddinoedd Tema a edrychasant, minteioedd Seba a ddisgwyliasant amdanynt. 20Hwy a gywilyddiwyd, am iddynt obeithio; hwy a ddaethant hyd yno, ac a wladeiddiasant. 21Canys yn awr nid ydych chwi ddim; chwi a welsoch fy nhaflu i lawr, ac a ofnasoch. 22A ddywedais i, Dygwch i mi? neu, O’ch golud rhoddwch roddion drosof fi? 23Neu, Gwaredwch fi o law y gelyn? neu, Rhyddhewch fi o law y cedyrn? 24Dysgwch fi, a myfi a dawaf: a gwnewch i mi ddeall ym mha beth y camgymerais. 25Mor gryfion ydyw geiriau uniondeb! ond pa beth a argyhoedda argyhoeddiad un ohonoch chwi? 26Ai argyhoeddi ymadroddion a amcenwch chwi â geiriau un diobaith, y rhai sydd megis gwynt? 27Chwi a ruthrwch hefyd am ben yr amddifad, ac a gloddiwch bwll i’ch cyfaill. 28Yn awr gan hynny byddwch fodlon; edrychwch arnaf fi; canys y mae yn eglur i chwi os dywedaf gelwydd. 29Dychwelwch, atolwg, na fydded anwiredd; ie, trowch eto, y mae fy nghyfiawnder yn hyn. 30A oes anwiredd yn fy nhafod? oni ddeall taflod fy ngenau gam flas?

Dewis Presennol:

Job 6: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda