Job 42:1-6
Job 42:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd Job wrth yr ARGLWYDD: “Gwn dy fod yn gallu gwneud popeth, ac nad oes dim yn amhosibl i ti. Meddi, ‘Pwy yw hwn sy'n cuddio deall â geiriau diwybod?’ Yn wir, rwyf wedi mynegi pethau nad oeddwn yn eu deall, pethau rhyfeddol, tu hwnt i'm dirnad. Yn awr gwrando, a gad i mi lefaru; fe holaf fi di, a chei dithau f'ateb. Trwy glywed yn unig y gwyddwn amdanat, ond yn awr rwyf wedi dy weld â'm llygaid fy hun. Am hynny rwyf yn fy ffieiddio fy hunan, ac yn edifarhau mewn llwch a lludw.”
Job 42:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma Job yn dweud wrth yr ARGLWYDD: “Dw i’n gwybod dy fod ti’n gallu gwneud unrhyw beth; does dim modd rhwystro dy gynlluniau di. ‘Pwy ydy hwn sy’n amau fy nghynllun i, ac yn deall dim?’ meddet ti. Ti’n iawn, dw i wedi siarad am bethau doeddwn i ddim yn eu deall; pethau oedd y tu hwnt i mi, pethau allwn i mo’u dirnad nhw. ‘Gwranda arna i, a gwna i siarad; Fi fydd yn gofyn y cwestiynau, a gei di ateb,’ meddet ti. O’r blaen, wedi clywed amdanat ti oeddwn i, ond nawr dw i wedi dy weld drosof fy hun. Felly, dw i’n tynnu’r cwbl yn ôl, ac yn edifarhau mewn llwch a lludw.”
Job 42:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Job a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Myfi a wn y gelli di bob peth; ac na atelir un meddwl oddi wrthyt. Pwy ydyw yr hwn sydd yn cuddio cyngor heb wybodaeth? am hynny y lleferais yr hyn nis deellais; pethau rhy ryfedd i mi, y rhai nis gwyddwn. Gwrando, atolwg, a myfi a lefaraf: gofynnaf i ti, dysg dithau finnau. Myfi a glywais â’m clustiau sôn amdanat: ond yn awr fy llygad a’th welodd di. Am hynny y mae yn ffiaidd gennyf fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw.