Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 38:1-21

Job 38:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt: “Pwy yw hwn sy'n tywyllu cyngor â geiriau diwybod? Gwna dy hun yn barod i'r ornest; fe holaf fi di, a chei dithau ateb. “Ble'r oeddit ti pan osodais i sylfaen i'r ddaear? Ateb, os gwyddost. Pwy a benderfynodd ei mesurau? Mae'n siŵr dy fod yn gwybod! Pwy a estynnodd linyn mesur arni? Ar beth y seiliwyd ei sylfeini, a phwy a osododd ei chonglfaen? Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a'r holl angylion yn gorfoleddu, pan gaewyd ar y môr â dorau, pan lamai allan o'r groth, pan osodais gwmwl yn wisg amdano, a'r caddug yn rhwymyn iddo, a phan drefnais derfyn iddo, a gosod barrau a dorau, a dweud, ‘Hyd yma yr ei, a dim pellach, ac yma y gosodais derfyn i ymchwydd dy donnau’? “A wyt ti, yn ystod dy fywyd, wedi gorchymyn y bore a dangos ei lle i'r wawr, er mwyn iddi gydio yng nghonglau'r ddaear, i ysgwyd y drygionus ohoni? Y mae'n newid ffurf fel clai dan y sêl, ac yn sefyll allan fel plyg dilledyn. Atelir eu goleuni oddi wrth y drygionus, a thorrir y fraich ddyrchafedig. “A fedri di fynd at ffynhonnell y môr, neu gerdded yng nghuddfa'r dyfnder? A agorwyd pyrth angau i ti, neu a welaist ti byrth y fagddu? A fedri di ddirnad maint y ddaear? Dywed, os wyt ti'n deall hyn i gyd. “Prun yw'r ffordd i drigfan goleuni, ac i le tywyllwch, fel y gelli di ei chymryd i'w therfyn, a gwybod y llwybr i'w thŷ? Fe wyddost, am dy fod wedi dy eni yr adeg honno, a bod nifer dy ddyddiau yn fawr!

Job 38:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yna dyma’r ARGLWYDD yn ateb Job o’r storm ac yn dweud: “Pwy ydy hwn sy’n amau fy nghynllun i, ac yn siarad heb ddeall dim? Torcha dy lewys fel dyn! Fi fydd yn gofyn y cwestiynau, a gei di ateb. Ble roeddet ti pan osodais i sylfeini’r ddaear? Ateb fi os wyt ti’n gwybod y cwbl! Pwy benderfynodd beth fyddai ei maint? – ti’n siŵr o fod yn gwybod! Pwy wnaeth ddefnyddio llinyn i’w mesur? Ar beth y gosodwyd ei sylfeini? Pwy osododd ei chonglfaen? Ble roeddet ti pan oedd sêr y bore yn canu gyda’i gilydd a holl angylion Duw yn gweiddi’n llawen? Pwy gaeodd y drysau ar y môr wrth iddo arllwys allan o’r groth? Fi roddodd gymylau yn wisg amdano, a’i lapio mewn niwl trwchus. Fi osododd derfyn iddo, a’i gadw tu ôl i ddrysau wedi’u bolltio. Dwedais, ‘Cei di ddod hyd yma, ond dim pellach; dyma lle mae ymchwydd dy donnau yn stopio!’ Wyt ti erioed wedi gorchymyn i’r bore ddod, a dangos i’r wawr ble i dorri, a sut i ledu a gafael yn ymylon y ddaear, ac ysgwyd y rhai drwg oddi arni? Mae ei siâp yn dod i’r golwg fel clai dan sêl, a ffurfiau’r tir i’w gweld fel plygion dilledyn. Mae’r golau’n tarfu ar y rhai drwg, ac mae’r fraich sy’n treisio’n cael ei thorri. Wyt ti wedi bod at y ffynhonnau sy’n llenwi’r môr, neu gerdded mannau dirgel y dyfnder? Ydy giatiau marwolaeth wedi’u dangos i ti? Wyt ti wedi gweld y giatiau i’r tywyllwch dudew? Oes gen ti syniad mor fawr ydy’r ddaear? Os wyt ti’n gwybod hyn i gyd – dywed wrtho i! Pa ffordd mae mynd i ble mae’r golau’n byw? O ble mae’r tywyllwch yn dod? Wyt ti’n gallu dangos ble mae ffiniau’r ddau, a dangos iddyn nhw sut i fynd adre? Mae’n siŵr dy fod, gan dy fod wedi dy eni bryd hynny, ac wedi bod yn fyw ers cymaint o flynyddoedd!

Job 38:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna yr ARGLWYDD a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd, Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth. Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti. Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall. Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi? Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi, Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion DUW? A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o’r groth? Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo, Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau, Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di. A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau? a ddangosaist ti i’r wawrddydd ei lle, I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear, fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi? Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad. Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig. A ddaethost ti i eigion y môr? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder? A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cysgod angau? A ystyriaist ti led y ddaear? mynega, os adwaenost ti hi i gyd. Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha le y mae lle y tywyllwch, Fel y cymerit ef hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau i’w dŷ ef? A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr?