Job 34:10-11
Job 34:10-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, gwrandwch, chi ddynion deallus, Fyddai Duw byth yn gwneud drwg; a’r Un sy’n rheoli popeth yn gwneud dim o’i le! Mae e’n talu i bobl am yr hyn maen nhw’n ei wneud, mae pawb yn cael beth maen nhw’n ei haeddu!
Rhanna
Darllen Job 34Job 34:10-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Am hyn, chwi bobl ddeallus, gwrandewch arnaf. Pell y bo oddi wrth Dduw wneud drygioni, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu'n anghyfiawn. Oherwydd fe dâl ef i bob un yn ôl ei weithred, a'i wobrwyo yn ôl ei ffordd o fyw.
Rhanna
Darllen Job 34Job 34:10-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny chwychwi wŷr calonnog, gwrandewch arnaf. Pell oddi wrth DDUW fyddo gwneuthur annuwioldeb, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd. Canys efe a dâl i ddyn ei waith; ac efe a wna i ŵr gael yn ôl ei ffyrdd ei hun.
Rhanna
Darllen Job 34