Job 12:7-10
Job 12:7-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond meddwch chi: ‘Gofyn i’r anifeiliaid – byddan nhw’n dy ddysgu; neu i’r adar – byddan nhw’n dweud wrthot ti. Neu gofyn i’r ddaear – bydd hi’n dy ddysgu, ac i bysgod y môr ddangos y ffordd i ti. Pa un ohonyn nhw sydd ddim yn gwybod mai Duw sydd wedi gwneud hyn? Yn ei law e mae bywyd pob creadur ac anadl pob person byw.
Job 12:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu, ac i adar y nefoedd fynegi i ti, neu i blanhigion y tir dy hyfforddi, ac i bysgod y môr dy gyfarwyddo. Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gyd mai llaw'r ARGLWYDD a'u gwnaeth? Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw, ac anadl pob un meidrol.
Job 12:7-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond gofyn yn awr i’r anifeiliaid, a hwy a’th ddysgant; ac i ehediaid yr awyr, a hwy a fynegant i ti. Neu dywed wrth y ddaear, a hi a’th ddysg; a physgod y môr a hysbysant i ti. Pwy ni ŵyr yn y rhai hyn oll, mai llaw yr ARGLWYDD a wnaeth hyn? Yr hwn y mae einioes pob peth byw yn ei law, ac anadl pob math ar ddyn.