Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 12

12
1Atebodd Job:
2“Yn wir, chwi yw'r bobl,
a chyda chwi y derfydd doethineb!
3Ond y mae gennyf finnau ddeall fel chwithau,
ac nid wyf yn salach na chwi;
yn wir, pwy sydd heb wybod hyn?
4“Yr wyf yn gyff gwawd i'm cyfeillion,
er imi alw ar Dduw ac iddo yntau ateb;
y cyfiawn a'r perffaith yn gyff gwawd!
5Dirmygir dinistr gan y rhai sydd mewn esmwythyd,
a sefydlogrwydd gan y rhai y mae eu traed yn llithro.
6Llwyddiant sydd ym mhebyll yr anrheithwyr,
a diogelwch i'r rhai sy'n blino Duw—
rhai wedi cael Duw dan eu bawd!
7“Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu,
ac i adar y nefoedd fynegi i ti,
8neu i blanhigion y tir dy hyfforddi,
ac i bysgod y môr dy gyfarwyddo.
9Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gyd
mai llaw'r ARGLWYDD a'u gwnaeth?
10Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw,
ac anadl pob un meidrol.
11Onid yw'r glust yn profi geiriau,
fel y mae taflod y genau yn blasu bwyd?
12“Ai ymhlith yr oedrannus y ceir doethineb,
a deall gyda'r rhai sydd ymlaen mewn dyddiau?
13Gan Dduw#12:13 Hebraeg, Ganddo ef. y mae doethineb a chryfder,
a chyngor a deall sydd eiddo iddo.
14Os dinistria, nid adeiledir:
os carchara neb, nid oes rhyddhad.
15Os atal ef y dyfroedd, yna y mae sychder;
a phan ollwng hwy, yna gorlifant y ddaear.
16Ganddo ef y mae nerth a gwir ddoethineb;
ef biau'r sawl a dwyllir a'r sawl sy'n twyllo.
17Gwna i gynghorwyr gerdded yn droednoeth,
a gwawdia farnwyr.
18Y mae'n datod gwregys brenhinoedd,
ac yn rhwymo carpiau am eu llwynau.
19Gwna i offeiriaid gerdded yn droednoeth,
a lloria'r rhai sefydledig.
20Diddyma ymadrodd y rhai y credir ynddynt,
a chymer graffter yr henuriaid oddi wrthynt.
21Fe dywallt ddirmyg ar bendefigion,
a gwanhau nerth y cryfion.
22Y mae'n datguddio cyfrinachau o'r tywyllwch,
ac yn troi'r fagddu yn oleuni.
23Fe amlha genhedloedd, ac yna fe'u dinistria;
fe ehanga genhedloedd, ac yna fe'u dwg ymaith.
24Diddyma farn penaethiaid y ddaear,
a pheri iddynt grwydro mewn diffeithwch di-ffordd;
25ymbalfalant yn y tywyllwch heb oleuni;
fe wna iddynt simsanu fel meddwon.”

Dewis Presennol:

Job 12: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda