Ioan 8:31-51
Ioan 8:31-51 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dwedodd Iesu wrth yr Iddewon hynny oedd wedi credu ynddo, “Os daliwch afael yn yr hyn dw i wedi’i ddangos i chi, dych chi’n ddilynwyr go iawn i mi. Byddwch yn dod i wybod beth sy’n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw’n rhoi rhyddid i chi.” “Dŷn ni’n ddisgynyddion i Abraham,” medden nhw, “fuon ni erioed yn gaethweision! Felly beth wyt ti’n ei feddwl wrth ddweud, ‘Byddwch chi’n cael bod yn rhydd’?” Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, mae pawb sy’n pechu wedi’i gaethiwo gan bechod. Dydy caethwas ddim yn perthyn i’r teulu mae’n ei wasanaethu, ond mae mab yn perthyn am byth. Felly os ydy’r Mab yn eich rhyddhau chi byddwch yn rhydd go iawn. Dw i’n gwybod eich bod chi’n ddisgynyddion i Abraham, ond dych chi’n ceisio fy lladd i am eich bod chi ddim yn deall beth dw i’n ddweud go iawn. Dw i’n cyhoeddi beth dw i wedi’i weld gyda’r Tad. Dych chi’n gwneud beth mae’ch tad chi’n ei ddweud wrthoch chi.” “Abraham ydy’n tad ni,” medden nhw. “Petaech chi wir yn blant i Abraham,” meddai Iesu, “byddech chi’n gwneud beth wnaeth Abraham. Yn lle hynny dych chi’n benderfynol o’m lladd i, a minnau ond wedi cyhoeddi’r gwirionedd glywais i gan Dduw. Doedd Abraham ddim yn gwneud peth felly! Na, gwneud y pethau mae’ch tad chi’n eu gwneud dych chi.” “Dim plant siawns ydyn ni!” medden nhw, “Duw ei hun ydy’r unig Dad sydd gynnon ni.” “Ond petai Duw yn Dad i chi,” meddai Iesu, “byddech chi’n fy ngharu i, am fy mod i wedi dod yma oddi wrth Dduw. Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun; Duw sydd wedi fy anfon i. Pam nad ydy be dw i’n ddweud yn gwneud sens i chi? Am eich bod yn methu clywed y neges sydd gen i. Y diafol ydy eich tad chi, a dych chi am wneud beth mae’ch tad eisiau. Llofrudd oedd e o’r dechrau, heb lynu wrth y gwir, am fod dim lle i’r gwir ynddo. Pan mae’n dweud celwydd, mae’n siarad ei famiaith! Celwyddgi ydy e! Tad pob celwydd! Ond dw i’n dweud y gwir, felly dych chi ddim yn fy nghredu i! Oes unrhyw un ohonoch chi’n gallu profi mod i’n euog o bechu? Felly os dw i’n dweud y gwir pam dych chi’n gwrthod credu? Mae pwy bynnag sy’n perthyn i Dduw yn gwrando ar beth mae Duw yn ei ddweud. Y rheswm pam dych chi ddim yn gwrando ydy am eich bod chi ddim yn perthyn i Dduw.” “Y Samariad ddiawl!” medden nhw, “Dŷn ni’n iawn. Mae cythraul ynot ti!” “Fi? Does gen i ddim cythraul,” meddai Iesu, “Beth dw i’n ei wneud ydy anrhydeddu fy Nhad, a dych chi’n fy sarhau i. Dw i ddim yn edrych am glod i mi fy hun; ond mae un sy’n ei geisio, a fe ydy’r un sy’n barnu. Credwch chi fi – fydd pwy bynnag sy’n dal gafael yn yr hyn dw i wedi’i ddysgu iddyn nhw byth yn gweld marwolaeth.”
Ioan 8:31-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd Iesu wrth yr Iddewon oedd wedi credu ynddo, “Os arhoswch chwi yn fy ngair i, yr ydych mewn gwirionedd yn ddisgyblion i mi. Cewch wybod y gwirionedd, a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau.” Atebasant ef, “Plant Abraham ydym ni, ac ni buom erioed yn gaethweision i neb. Sut y gelli di ddweud, ‘Fe'ch gwneir yn rhyddion’?” Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod pob un sy'n cyflawni pechod yn gaethwas i bechod. Ac nid oes gan y caethwas le arhosol yn y tŷ, ond y mae'r mab yn aros am byth. Felly os yw'r Mab yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod mai plant Abraham ydych. Ond yr ydych yn ceisio fy lladd i am nad yw fy ngair i yn cael lle ynoch. Yr wyf fi'n siarad am y pethau yr wyf wedi eu gweld gyda'm Tad, ac yr ydych chwi'n gwneud y pethau a glywsoch gan eich tad.” Atebasant ef, “Abraham yw ein tad ni.” Meddai Iesu wrthynt, “Pe baech yn blant i Abraham, byddech yn gwneud yr un gweithredoedd ag Abraham. Ond dyma chwi yn awr yn ceisio fy lladd i, dyn sydd wedi llefaru wrthych y gwirionedd a glywais gan Dduw. Ni wnaeth Abraham mo hynny. Gwneud gweithredoedd eich tad eich hunain yr ydych chwi.” “Nid plant puteindra mohonom ni,” meddent wrtho. “Un Tad sydd gennym, sef Duw.” Meddai Iesu wrthynt, “Petai Duw yn dad i chwi, byddech yn fy ngharu i, oherwydd oddi wrth Dduw y deuthum allan a dod yma. Nid wyf wedi dod ohonof fy hun, ond ef a'm hanfonodd. Pam nad ydych yn deall yr hyn yr wyf yn ei ddweud? Am nad ydych yn gallu gwrando ar fy ngair i. Plant ydych chwi i'ch tad, y diafol, ac yr ydych â'ch bryd ar gyflawni dymuniadau eich tad. Llofrudd oedd ef o'r cychwyn; nid yw'n sefyll yn y gwirionedd, oherwydd nid oes dim gwirionedd ynddo. Pan fydd yn dweud celwydd, datguddio'i natur ei hun y mae, oherwydd un celwyddog yw ef, a thad pob celwydd. Ond yr wyf fi'n dweud y gwirionedd, ac am hynny nid ydych yn fy nghredu. Pwy ohonoch chwi sydd am brofi fy mod i'n euog o bechod? Os wyf yn dweud y gwir, pam nad ydych chwi yn fy nghredu? Y mae'r sawl sydd o Dduw yn gwrando geiriau Duw. Nid ydych chwi o Dduw, a dyna pam nad ydych yn gwrando.” Atebodd yr Iddewon ef, “Onid ydym ni'n iawn wrth ddweud, ‘Samariad wyt ti, ac y mae cythraul ynot’?” Atebodd Iesu, “Nid oes cythraul ynof; parchu fy Nhad yr wyf fi, a chwithau'n fy amharchu i. Nid wyf fi'n ceisio fy ngogoniant fy hun, ond y mae un sydd yn ei geisio, ac ef sy'n barnu. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, os bydd rhywun yn cadw fy ngair i, ni wêl farwolaeth byth.”
Ioan 8:31-51 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dywedodd yr Iesu wrth yr Iddewon a gredasant ynddo, Os arhoswch chwi yn fy ngair i, disgyblion i mi ydych yn wir; A chwi a gewch wybod y gwirionedd, a’r gwirionedd a’ch rhyddha chwi. Hwythau a atebasant iddo, Had Abraham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb erioed: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion? Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod. Ac nid yw’r gwas yn aros yn tŷ byth: y Mab sydd yn aros byth. Os y Mab gan hynny a’ch rhyddha chwi, rhyddion fyddwch yn wir. Mi a wn mai had Abraham ydych chwi: ond yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy ngair i yn genni ynoch chwi. Yr wyf fi yn llefaru yr hyn a welais gyda’m Tad i: a chwithau sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyda’ch tad chwithau. Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Ein tad ni yw Abraham. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech. Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd, yr hwn a glywais i gan Dduw: hyn ni wnaeth Abraham. Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi. Am hynny y dywedasant wrtho, Nid trwy buteindra y cenhedlwyd ni: un Tad sydd gennym ni, sef Duw. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Pe Duw fyddai eich Tad, chwi a’m carech i: canys oddi wrth Dduw y deilliais, ac y deuthum i; oblegid nid ohonof fy hun y deuthum i, ond efe a’m hanfonodd i. Paham nad ydych yn deall fy lleferydd i? am na ellwch wrando fy ymadrodd i. O’ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo. Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd, nid ydych yn credu i mi. Pwy ohonoch a’m hargyhoedda i o bechod? Ac od wyf fi yn dywedyd y gwir, paham nad ydych yn credu i mi? Y mae’r hwn sydd o Dduw, yn gwrando geiriau Duw: am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad ydych o Dduw. Yna yr atebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, Onid da yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a bod gennyt gythraul? Yr Iesu a atebodd, Nid oes gennyf gythraul; ond yr wyf fi yn anrhydeddu fy Nhad, ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu innau. Ac nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant fy hun: y mae a’i cais, ac a farn. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Os ceidw neb fy ymadrodd i, ni wêl efe farwolaeth yn dragywydd.