Yna dwedodd Iesu wrth yr Iddewon hynny oedd wedi credu ynddo, “Os daliwch afael yn yr hyn dw i wedi’i ddangos i chi, dych chi’n ddilynwyr go iawn i mi. Byddwch yn dod i wybod beth sy’n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw’n rhoi rhyddid i chi.”
“Dŷn ni’n ddisgynyddion i Abraham,” medden nhw, “fuon ni erioed yn gaethweision! Felly beth wyt ti’n ei feddwl wrth ddweud, ‘Byddwch chi’n cael bod yn rhydd’?”
Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, mae pawb sy’n pechu wedi’i gaethiwo gan bechod. Dydy caethwas ddim yn perthyn i’r teulu mae’n ei wasanaethu, ond mae mab yn perthyn am byth. Felly os ydy’r Mab yn eich rhyddhau chi byddwch yn rhydd go iawn. Dw i’n gwybod eich bod chi’n ddisgynyddion i Abraham, ond dych chi’n ceisio fy lladd i am eich bod chi ddim yn deall beth dw i’n ddweud go iawn. Dw i’n cyhoeddi beth dw i wedi’i weld gyda’r Tad. Dych chi’n gwneud beth mae’ch tad chi’n ei ddweud wrthoch chi.”
“Abraham ydy’n tad ni,” medden nhw.
“Petaech chi wir yn blant i Abraham,” meddai Iesu, “byddech chi’n gwneud beth wnaeth Abraham. Yn lle hynny dych chi’n benderfynol o’m lladd i, a minnau ond wedi cyhoeddi’r gwirionedd glywais i gan Dduw. Doedd Abraham ddim yn gwneud peth felly! Na, gwneud y pethau mae’ch tad chi’n eu gwneud dych chi.”
“Dim plant siawns ydyn ni!” medden nhw, “Duw ei hun ydy’r unig Dad sydd gynnon ni.”
“Ond petai Duw yn Dad i chi,” meddai Iesu, “byddech chi’n fy ngharu i, am fy mod i wedi dod yma oddi wrth Dduw. Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun; Duw sydd wedi fy anfon i. Pam nad ydy be dw i’n ddweud yn gwneud sens i chi? Am eich bod yn methu clywed y neges sydd gen i. Y diafol ydy eich tad chi, a dych chi am wneud beth mae’ch tad eisiau. Llofrudd oedd e o’r dechrau, heb lynu wrth y gwir, am fod dim lle i’r gwir ynddo. Pan mae’n dweud celwydd, mae’n siarad ei famiaith! Celwyddgi ydy e! Tad pob celwydd! Ond dw i’n dweud y gwir, felly dych chi ddim yn fy nghredu i! Oes unrhyw un ohonoch chi’n gallu profi mod i’n euog o bechu? Felly os dw i’n dweud y gwir pam dych chi’n gwrthod credu? Mae pwy bynnag sy’n perthyn i Dduw yn gwrando ar beth mae Duw yn ei ddweud. Y rheswm pam dych chi ddim yn gwrando ydy am eich bod chi ddim yn perthyn i Dduw.”
“Y Samariad ddiawl!” medden nhw, “Dŷn ni’n iawn. Mae cythraul ynot ti!”
“Fi? Does gen i ddim cythraul,” meddai Iesu, “Beth dw i’n ei wneud ydy anrhydeddu fy Nhad, a dych chi’n fy sarhau i. Dw i ddim yn edrych am glod i mi fy hun; ond mae un sy’n ei geisio, a fe ydy’r un sy’n barnu. Credwch chi fi – fydd pwy bynnag sy’n dal gafael yn yr hyn dw i wedi’i ddysgu iddyn nhw byth yn gweld marwolaeth.”