Ioan 7:21-24
Ioan 7:21-24 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Meddai Iesu wrthyn nhw, “Gwnes i un wyrth ar y dydd Saboth, a dych chi i gyd mewn sioc! Ac eto, roedd Moses wedi dweud fod rhaid i chi gadw defod enwaedu (er mai dim gan Moses ddaeth hi mewn gwirionedd, ond gan dadau’r genedl), a dych chi’n enwaedu bachgen ar y Saboth. Nawr, os ydy’n iawn i fachgen gael ei enwaedu ar ddydd Saboth er mwyn peidio torri Cyfraith Moses, pam dych chi wedi gwylltio am fy mod i wedi iacháu rhywun yn llwyr ar y Saboth? Stopiwch fod mor arwynebol wrth farnu; barnwch yn gywir bob amser.”
Ioan 7:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Meddai Iesu wrthynt, “Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu o'r herwydd. Rhoddodd Moses i chwi ddefod enwaediad—er nad gyda Moses y cychwynnodd ond gyda'r patriarchiaid—ac yr ydych yn enwaedu ar blentyn ar y Saboth. Os enwaedir ar blentyn ar y Saboth rhag torri Cyfraith Moses, a ydych yn ddig wrthyf fi am imi iacháu holl gorff rhywun ar y Saboth? Peidiwch â barnu yn ôl yr olwg, ond yn ôl safonau barn gyfiawn.”
Ioan 7:21-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu. Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad; (nid oherwydd ei fod o Moses, eithr o’r tadau;) ac yr ydych yn enwaedu ar ddyn ar y Saboth. Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y Saboth, heb dorri cyfraith Moses; a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn yn holliach ar y Saboth? Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn.