Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu. Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad; (nid oherwydd ei fod o Moses, eithr o’r tadau;) ac yr ydych yn enwaedu ar ddyn ar y Saboth. Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y Saboth, heb dorri cyfraith Moses; a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn yn holliach ar y Saboth? Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn.
Darllen Ioan 7
Gwranda ar Ioan 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 7:21-24
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos