Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 20:1-29

Ioan 20:1-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yn gynnar iawn ar y bore Sul, a hithau’n dal yn dywyll, dyma Mair Magdalen yn mynd at y bedd a darganfod fod y garreg fawr oedd ar geg y bedd wedi’i symud. Felly dyma hi’n rhedeg at Simon Pedr a’r disgybl arall (yr un oedd Iesu’n ei garu), a dweud wrthyn nhw, “Maen nhw wedi cymryd yr Arglwydd allan o’r bedd, a dŷn ni ddim yn gwybod ble maen nhw wedi’i roi e!” Felly dyma Pedr a’r disgybl arall yn mynd allan i fynd at y bedd. Rhedodd y ddau gyda’i gilydd, ond dyma’r disgybl arall yn rhedeg yn gynt na Pedr a chyrraedd yno o’i flaen. Plygodd i edrych i mewn i’r bedd, a gweld y stribedi o liain yn gorwedd yno, ond aeth e ddim i mewn. Yna dyma Simon Pedr yn cyrraedd ar ei ôl ac yn mynd yn syth i mewn i’r bedd. Gwelodd yntau’r stribedi o liain yn gorwedd yno. Gwelodd hefyd y cadach oedd wedi bod am wyneb Iesu, ond roedd hwnnw wedi’i blygu a’i osod o’r neilltu ar wahân i’r stribedi lliain. Yna, yn y diwedd, dyma’r disgybl arall (oedd wedi cyrraedd y bedd gyntaf) yn mynd i mewn hefyd. Pan welodd e’r cwbl, credodd. (Doedden nhw ddim eto wedi deall fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud fod rhaid i Iesu ddod yn ôl yn fyw.) Aeth y disgyblion yn ôl adre, ond safodd Mair wrth ymyl y bedd yn crio. Plygodd i lawr i edrych i mewn i’r bedd a gweld dau angel mewn dillad gwyn yn eistedd lle roedd corff Iesu wedi cael ei roi i orwedd – un wrth y pen a’r llall wrth y traed. Dyma nhw’n gofyn i Mair, “Wraig annwyl, pam wyt ti’n crio?” “Maen nhw wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd,” atebodd, “a dw i ddim yn gwybod ble maen nhw wedi mynd ag e” Dyna pryd y trodd hi rownd a gweld rhywun yn sefyll yno. Iesu oedd yno, ond doedd hi ddim yn sylweddoli mai Iesu oedd e. “Wraig annwyl,” meddai Iesu wrthi, “pam wyt ti’n crio? Am bwy rwyt ti’n chwilio?” Roedd hi’n meddwl mai’r garddwr oedd e, a dwedodd, “Syr, os mai ti sydd wedi’i symud, dywed lle rwyt ti wedi’i roi e, a bydda i’n mynd i’w nôl e.” Yna dyma Iesu’n dweud, “Mair.” Trodd ato, ac meddai yn Hebraeg, “Rabbwni!” (sy’n golygu ‘Fy athro’). Dyma Iesu’n dweud wrthi, “Paid dal gafael ynof fi. Dw i ddim yn mynd i fyny at y Tad eto. Dos at fy mrodyr i a dweud wrthyn nhw, ‘Dw i’n mynd at fy Nhad a’m Duw, eich Tad a’ch Duw chi hefyd.’” Yna aeth Mair Magdalen at y disgyblion a dweud: “Dw i wedi gweld yr Arglwydd!” A dwedodd wrthyn nhw beth oedd e wedi’i ddweud wrthi. Y noson honno, sef nos Sul, roedd y disgyblion gyda’i gilydd. Er bod y drysau wedi’u cloi am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig, dyma Iesu’n dod i mewn a sefyll yn y canol. “Shalôm!” meddai wrthyn nhw. Yna dangosodd ei ddwylo a’i ochr iddyn nhw. Roedd y disgyblion mor hapus pan welon nhw’r Arglwydd. Yna dwedodd Iesu eto, “Shalôm! Yn union fel anfonodd y Tad fi, dw i hefyd yn eich anfon chi.” Wedyn chwythodd arnyn nhw, a dweud, “Derbyniwch yr Ysbryd Glân. Os gwnewch chi faddau pechodau rhywun, bydd y pechodau hynny yn cael eu maddau; ond os fyddwch chi ddim yn maddau iddyn nhw, fyddan nhw ddim yn cael maddeuant.” Doedd Tomos ddim yno pan wnaeth Iesu ymddangos, (Tomos oedd yn cael ei alw ‘Yr Efaill’ – un o’r deuddeg disgybl). Dyma’r lleill yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi gweld yr Arglwydd!” Ond ei ymateb oedd, “Nes i mi gael gweld ôl yr hoelion yn ei arddyrnau, a rhoi fy mys yn y briwiau hynny a rhoi fy llaw i mewn yn ei ochr, wna i byth gredu’r peth!” Wythnos yn ddiweddarach roedd y disgyblion yn y tŷ eto, a’r tro hwn roedd Tomos yno gyda nhw. Er bod y drysau wedi’u cloi, daeth Iesu i mewn a sefyll yn y canol a dweud, “Shalôm!” Trodd at Tomos a dweud, “Edrych ar fy arddyrnau; rho dy fys i mewn ynddyn nhw. Estyn dy law i’w rhoi yn fy ochr i. Stopia amau! Creda!” A dyma Tomos yn dweud, “Fy Arglwydd a’m Duw!” “Ti wedi dod i gredu am dy fod wedi fy ngweld i,” meddai Iesu wrtho. “Mae’r rhai fydd yn credu heb weld yn mynd i gael eu bendithio’n fawr.”

Ioan 20:1-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, yn fore, tra oedd hi eto'n dywyll, dyma Mair Magdalen yn dod at y bedd, ac yn gweld bod y maen wedi ei dynnu oddi wrth y bedd. Rhedodd, felly, nes dod at Simon Pedr a'r disgybl arall, yr un yr oedd Iesu'n ei garu. Ac meddai wrthynt, “Y maent wedi cymryd yr Arglwydd allan o'r bedd, ac ni wyddom lle y maent wedi ei roi i orwedd.” Yna cychwynnodd Pedr a'r disgybl arall allan, a mynd at y bedd. Yr oedd y ddau'n cydredeg, ond rhedodd y disgybl arall ymlaen yn gynt na Pedr, a chyrraedd y bedd yn gyntaf. Plygodd i edrych, a gwelodd y llieiniau yn gorwedd yno, ond nid aeth i mewn. Yna daeth Simon Pedr ar ei ôl, a mynd i mewn i'r bedd. Gwelodd y llieiniau yn gorwedd yno, a hefyd y cadach oedd wedi bod am ei ben ef; nid oedd hwn yn gorwedd gyda'r llieiniau, ond ar wahân, wedi ei blygu ynghyd. Yna aeth y disgybl arall, y cyntaf i ddod at y bedd, yntau i mewn. Gwelodd, ac fe gredodd. Oherwydd nid oeddent eto wedi deall yr hyn a ddywed yr Ysgrythur, fod yn rhaid iddo atgyfodi oddi wrth y meirw. Yna aeth y disgyblion yn ôl adref. Ond yr oedd Mair yn dal i sefyll y tu allan i'r bedd, yn wylo. Wrth iddi wylo felly, plygodd i edrych i mewn i'r bedd, a gwelodd ddau angel mewn dillad gwyn yn eistedd lle'r oedd corff Iesu wedi bod yn gorwedd, un wrth y pen a'r llall wrth y traed. Ac meddai'r rhain wrthi, “Wraig, pam yr wyt ti'n wylo?” Atebodd hwy, “Y maent wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd, ac ni wn i lle y maent wedi ei roi i orwedd.” Wedi iddi ddweud hyn, troes yn ei hôl, a gwelodd Iesu'n sefyll yno, ond heb sylweddoli mai Iesu ydoedd. “Wraig,” meddai Iesu wrthi, “pam yr wyt ti'n wylo? Pwy yr wyt yn ei geisio?” Gan feddwl mai'r garddwr ydoedd, dywedodd hithau wrtho, “Os mai ti, syr, a'i cymerodd ef, dywed wrthyf lle y rhoddaist ef i orwedd, ac fe'i cymeraf fi ef i'm gofal.” Meddai Iesu wrthi, “Mair.” Troes hithau, ac meddai wrtho yn iaith yr Iddewon, “Rabbwni” (hynny yw, Athro). Meddai Iesu wrthi, “Paid â glynu wrthyf, oherwydd nid wyf eto wedi esgyn at y Tad. Ond dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, ‘Yr wyf yn esgyn at fy Nhad i a'ch Tad chwi, fy Nuw i a'ch Duw chwi.’ ” Ac aeth Mair Magdalen i gyhoeddi'r newydd i'r disgyblion. “Yr wyf wedi gweld yr Arglwydd,” meddai, ac eglurodd ei fod wedi dweud y geiriau hyn wrthi. Gyda'r nos ar y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos, yr oedd y drysau wedi eu cloi lle'r oedd y disgyblion, oherwydd eu bod yn ofni'r Iddewon. A dyma Iesu'n dod ac yn sefyll yn eu canol, ac yn dweud wrthynt, “Tangnefedd i chwi!” Wedi dweud hyn, dangosodd ei ddwylo a'i ystlys iddynt. Pan welsant yr Arglwydd, llawenychodd y disgyblion. Meddai Iesu wrthynt eilwaith, “Tangnefedd i chwi! Fel y mae'r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi.” Ac wedi dweud hyn, anadlodd arnynt a dweud: “Derbyniwch yr Ysbryd Glân. Os maddeuwch bechodau rhywun, y maent wedi eu maddau; os peidiwch â'u maddau, y maent heb eu maddau.” Nid oedd Thomas, a elwir Didymus, un o'r Deuddeg, gyda hwy pan ddaeth Iesu atynt. Ac felly dywedodd y disgyblion eraill wrtho, “Yr ydym wedi gweld yr Arglwydd.” Ond meddai ef wrthynt, “Os na welaf ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a rhoi fy mys yn ôl yr hoelion, a'm llaw yn ei ystlys, ni chredaf fi byth.” Ac ymhen wythnos, yr oedd y disgyblion unwaith eto yn y tŷ, a Thomas gyda hwy. A dyma Iesu'n dod, er bod y drysau wedi eu cloi, ac yn sefyll yn y canol a dweud, “Tangnefedd i chwi!” Yna meddai wrth Thomas, “Estyn dy fys yma. Edrych ar fy nwylo. Estyn dy law a'i rhoi yn fy ystlys. A phaid â bod yn anghredadun, bydd yn gredadun.” Atebodd Thomas ef, “Fy Arglwydd a'm Duw!” Dywedodd Iesu wrtho, “Ai am i ti fy ngweld i yr wyt ti wedi credu? Gwyn eu byd y rhai a gredodd heb iddynt weld.”

Ioan 20:1-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Y dydd cyntaf o’r wythnos, Mair Magdalen a ddaeth y bore, a hi eto’n dywyll, at y bedd; ac a welodd y maen wedi ei dynnu ymaith oddi ar y bedd. Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Pedr, a’r disgybl arall yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac a ddywedodd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymaith o’r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef. Yna Pedr a aeth allan, a’r disgybl arall, a hwy a ddaethant at y bedd; Ac a redasant ill dau ynghyd: a’r disgybl arall a redodd o’r blaen yn gynt na Phedr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd. Ac wedi iddo grymu, efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod: er hynny nid aeth efe i mewn. Yna y daeth Simon Pedr yn ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i’r bedd, ac a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod; A’r napgyn a fuasai am ei ben ef, wedi ei osod, nid gyda’r llieiniau, ond o’r neilltu wedi ei blygu mewn lle arall. Yna yr aeth y disgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai yn gyntaf at y bedd; ac a welodd, ac a gredodd. Canys hyd yn hyn ni wyddent yr ysgrythur, fod yn rhaid iddo gyfodi o feirw. Yna y disgyblion a aethant ymaith drachefn at yr eiddynt. Ond Mair a safodd wrth y bedd oddi allan, yn wylo: ac fel yr oedd hi yn wylo, hi a ymostyngodd i’r bedd; Ac a ganfu ddau angel mewn gwisgoedd gwynion, yn eistedd, un wrth ben, ac un wrth draed y lle y dodasid corff yr Iesu. A hwy a ddywedasant wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? Hithau a ddywedodd wrthynt, Am ddwyn ohonynt hwy fy Arglwydd i ymaith, ac nas gwn pa le y dodasant ef. Ac wedi dywedyd ohoni hyn, hi a droes drach ei chefn, ac a welodd yr Iesu yn sefyll: ac nis gwyddai hi mai yr Iesu oedd efe. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? pwy yr wyt ti yn ei geisio? Hithau, yn tybied mai’r garddwr oedd efe, a ddywedodd wrtho, Syr, os tydi a’i dygaist ef, dywed i mi pa le y dodaist ef, a myfi a’i cymeraf ef ymaith. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Mair. Hithau a droes, ac a ddywedodd wrtho, Rabboni; yr hyn yw dywedyd, Athro. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Na chyffwrdd â mi; oblegid ni ddyrchefais i eto at fy Nhad: eithr dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wyf yn dyrchafu at fy Nhad i a’ch Tad chwithau, a’m Duw i a’ch Duw chwithau. Mair Magdalen a ddaeth ac a fynegodd i’r disgyblion, weled ohoni hi yr Arglwydd, a dywedyd ohono y pethau hyn iddi. Yna, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o’r wythnos, a’r drysau yn gaead lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghyd rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i ystlys. Yna y disgyblion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Tangnefedd i chwi: megis y danfonodd y Tad fi, yr wyf finnau yn eich danfon chwi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Ysbryd Glân. Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt; a’r eiddo pwy bynnag a atalioch, hwy a ataliwyd. Eithr Thomas, un o’r deuddeg, yr hwn a elwir Didymus, nid oedd gyda hwynt pan ddaeth yr Iesu. Y disgyblion eraill gan hynny a ddywedasant wrtho, Ni a welsom yr Arglwydd. Yntau a ddywedodd wrthynt, Oni chaf weled yn ei ddwylo ef ôl yr hoelion, a dodi fy mys yn ôl yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf fi. Ac wedi wyth niwrnod drachefn yr oedd ei ddisgyblion ef i mewn, a Thomas gyda hwynt. Yna yr Iesu a ddaeth, a’r drysau yn gaead, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangnefedd i chwi. Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas, Moes yma dy fys, a gwêl fy nwylo; ac estyn dy law, a dod yn fy ystlys: ac na fydd anghredadun, ond credadun. A Thomas a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Fy Arglwydd, a’m Duw. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Am i ti fy ngweled, Thomas, y credaist: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant.