Yn gynnar iawn ar y bore Sul, a hithau’n dal yn dywyll, dyma Mair Magdalen yn mynd at y bedd a darganfod fod y garreg fawr oedd ar geg y bedd wedi’i symud. Felly dyma hi’n rhedeg at Simon Pedr a’r disgybl arall (yr un oedd Iesu’n ei garu), a dweud wrthyn nhw, “Maen nhw wedi cymryd yr Arglwydd allan o’r bedd, a dŷn ni ddim yn gwybod ble maen nhw wedi’i roi e!”
Felly dyma Pedr a’r disgybl arall yn mynd allan i fynd at y bedd. Rhedodd y ddau gyda’i gilydd, ond dyma’r disgybl arall yn rhedeg yn gynt na Pedr a chyrraedd yno o’i flaen. Plygodd i edrych i mewn i’r bedd, a gweld y stribedi o liain yn gorwedd yno, ond aeth e ddim i mewn. Yna dyma Simon Pedr yn cyrraedd ar ei ôl ac yn mynd yn syth i mewn i’r bedd. Gwelodd yntau’r stribedi o liain yn gorwedd yno. Gwelodd hefyd y cadach oedd wedi bod am wyneb Iesu, ond roedd hwnnw wedi’i blygu a’i osod o’r neilltu ar wahân i’r stribedi lliain. Yna, yn y diwedd, dyma’r disgybl arall (oedd wedi cyrraedd y bedd gyntaf) yn mynd i mewn hefyd. Pan welodd e’r cwbl, credodd. (Doedden nhw ddim eto wedi deall fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud fod rhaid i Iesu ddod yn ôl yn fyw.)
Aeth y disgyblion yn ôl adre, ond safodd Mair wrth ymyl y bedd yn crio. Plygodd i lawr i edrych i mewn i’r bedd a gweld dau angel mewn dillad gwyn yn eistedd lle roedd corff Iesu wedi cael ei roi i orwedd – un wrth y pen a’r llall wrth y traed.
Dyma nhw’n gofyn i Mair, “Wraig annwyl, pam wyt ti’n crio?”
“Maen nhw wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd,” atebodd, “a dw i ddim yn gwybod ble maen nhw wedi mynd ag e” Dyna pryd y trodd hi rownd a gweld rhywun yn sefyll yno. Iesu oedd yno, ond doedd hi ddim yn sylweddoli mai Iesu oedd e. “Wraig annwyl,” meddai Iesu wrthi, “pam wyt ti’n crio? Am bwy rwyt ti’n chwilio?”
Roedd hi’n meddwl mai’r garddwr oedd e, a dwedodd, “Syr, os mai ti sydd wedi’i symud, dywed lle rwyt ti wedi’i roi e, a bydda i’n mynd i’w nôl e.”
Yna dyma Iesu’n dweud, “Mair.”
Trodd ato, ac meddai yn Hebraeg, “Rabbwni!” (sy’n golygu ‘Fy athro’).
Dyma Iesu’n dweud wrthi, “Paid dal gafael ynof fi. Dw i ddim yn mynd i fyny at y Tad eto. Dos at fy mrodyr i a dweud wrthyn nhw, ‘Dw i’n mynd at fy Nhad a’m Duw, eich Tad a’ch Duw chi hefyd.’”
Yna aeth Mair Magdalen at y disgyblion a dweud: “Dw i wedi gweld yr Arglwydd!” A dwedodd wrthyn nhw beth oedd e wedi’i ddweud wrthi.
Y noson honno, sef nos Sul, roedd y disgyblion gyda’i gilydd. Er bod y drysau wedi’u cloi am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig, dyma Iesu’n dod i mewn a sefyll yn y canol. “Shalôm!” meddai wrthyn nhw. Yna dangosodd ei ddwylo a’i ochr iddyn nhw. Roedd y disgyblion mor hapus pan welon nhw’r Arglwydd.
Yna dwedodd Iesu eto, “Shalôm! Yn union fel anfonodd y Tad fi, dw i hefyd yn eich anfon chi.” Wedyn chwythodd arnyn nhw, a dweud, “Derbyniwch yr Ysbryd Glân. Os gwnewch chi faddau pechodau rhywun, bydd y pechodau hynny yn cael eu maddau; ond os fyddwch chi ddim yn maddau iddyn nhw, fyddan nhw ddim yn cael maddeuant.”
Doedd Tomos ddim yno pan wnaeth Iesu ymddangos, (Tomos oedd yn cael ei alw ‘Yr Efaill’ – un o’r deuddeg disgybl). Dyma’r lleill yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi gweld yr Arglwydd!”
Ond ei ymateb oedd, “Nes i mi gael gweld ôl yr hoelion yn ei arddyrnau, a rhoi fy mys yn y briwiau hynny a rhoi fy llaw i mewn yn ei ochr, wna i byth gredu’r peth!”
Wythnos yn ddiweddarach roedd y disgyblion yn y tŷ eto, a’r tro hwn roedd Tomos yno gyda nhw. Er bod y drysau wedi’u cloi, daeth Iesu i mewn a sefyll yn y canol a dweud, “Shalôm!” Trodd at Tomos a dweud, “Edrych ar fy arddyrnau; rho dy fys i mewn ynddyn nhw. Estyn dy law i’w rhoi yn fy ochr i. Stopia amau! Creda!”
A dyma Tomos yn dweud, “Fy Arglwydd a’m Duw!”
“Ti wedi dod i gredu am dy fod wedi fy ngweld i,” meddai Iesu wrtho. “Mae’r rhai fydd yn credu heb weld yn mynd i gael eu bendithio’n fawr.”