Ioan 2:13-25
Ioan 2:13-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd Pasg yr Iddewon yn ymyl, ac aeth Iesu i fyny i Jerwsalem. A chafodd yn y deml y rhai oedd yn gwerthu ychen a defaid a cholomennod, a'r cyfnewidwyr arian wrth eu byrddau. Gwnaeth chwip o gordenni, a gyrrodd hwy oll allan o'r deml, y defaid a'r ychen hefyd. Taflodd arian mân y cyfnewidwyr ar chwâl, a bwrw eu byrddau wyneb i waered. Ac meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, “Ewch â'r rhain oddi yma. Peidiwch â gwneud tŷ fy Nhad i yn dŷ masnach.” Cofiodd ei ddisgyblion eiriau'r Ysgrythur: “Bydd sêl dros dy dŷ di yn fy ysu.” Yna heriodd yr Iddewon ef a gofyn, “Pa arwydd sydd gennyt i'w ddangos i ni, yn awdurdod dros wneud y pethau hyn?” Atebodd Iesu hwy: “Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau fe'i codaf hi.” Dywedodd yr Iddewon, “Chwe blynedd a deugain y bu'r deml hon yn cael ei hadeiladu, ac a wyt ti'n mynd i'w chodi mewn tridiau?” Ond sôn yr oedd ef am deml ei gorff. Felly, wedi iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw, cofiodd ei ddisgyblion iddo ddweud hyn, a chredasant yr Ysgrythur, a'r gair yr oedd Iesu wedi ei lefaru. Tra oedd yn Jerwsalem yn dathlu gŵyl y Pasg, credodd llawer yn ei enw ef wrth weld yr arwyddion yr oedd yn eu gwneud. Ond nid oedd Iesu yn ei ymddiried ei hun iddynt, oherwydd yr oedd yn adnabod y natur ddynol. Nid oedd arno angen tystiolaeth neb ynglŷn â'r ddynolryw; yr oedd ef ei hun yn gwybod beth oedd mewn dynion.
Ioan 2:13-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd yn amser Gŵyl y Pasg (un o wyliau’r Iddewon), a dyma Iesu’n mynd i Jerwsalem. Yng nghwrt y deml gwelodd bobl yn gwerthu ychen, defaid a cholomennod, ac eraill yn eistedd wrth fyrddau yn cyfnewid arian. Felly gwnaeth chwip o reffynnau, a’u gyrru nhw i gyd allan o’r deml gyda’r defaid a’r ychen. Chwalodd holl arian y rhai oedd yn cyfnewid arian, a throi eu byrddau drosodd. Yna meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, “Ewch â’r rhain allan o ma! Stopiwch droi tŷ fy Nhad i yn farchnad!” Yna cofiodd ei ddisgyblion fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd fy sêl dros dy dŷ di yn fy meddiannu i.” Ond dyma’r arweinwyr Iddewig yn ei herio, “Pa arwydd gwyrthiol wnei di i brofi i ni fod gen ti hawl i wneud hyn i gyd?” Atebodd Iesu nhw, “Dinistriwch y deml hon, a gwna i ei hadeiladu hi eto o fewn tri diwrnod.” Atebodd yr arweinwyr Iddewig, “Mae’r deml wedi bod yn cael ei hadeiladu ers pedwar deg chwech mlynedd! Wyt ti’n mynd i’w hadeiladu mewn tri diwrnod?” (Ond y deml oedd Iesu’n sôn amdani oedd ei gorff. Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw, cofiodd ei ddisgyblion ei fod wedi dweud hyn, a dyma nhw’n credu’r ysgrifau sanctaidd a beth ddwedodd Iesu.) Tra oedd Iesu yn Jerwsalem yn dathlu Gŵyl y Pasg, daeth llawer o bobl i gredu ynddo am eu bod nhw wedi’i weld e’n gwneud arwyddion gwyrthiol. Ond doedd Iesu ddim yn eu trystio nhw – roedd e’n deall pobl i’r dim. Doedd dim angen i neb esbonio iddo, am ei fod e’n gwybod yn iawn sut mae’r meddwl dynol yn gweithio.
Ioan 2:13-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem; Ac a gafodd yn y deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a’r newidwyr arian yn eistedd. Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml, y defaid hefyd a’r ychen; ac a dywalltodd allan arian y newidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau: Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, Dygwch y rhai hyn oddi yma; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad. A’i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Sêl dy dŷ di a’m hysodd i. Yna yr Iddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi. Yna yr Iddewon a ddywedasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon; ac a gyfodi di hi mewn tridiau? Ond efe a ddywedasai am deml ei gorff. Am hynny pan gyfododd efe o feirw, ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr ysgrythur, a’r gair a ddywedasai yr Iesu. Ac fel yr oedd efe yn Jerwsalem ar y pasg yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe. Ond nid ymddiriedodd yr Iesu iddynt amdano ei hun, am yr adwaenai efe hwynt oll; Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddyn: oherwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn.