Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 18:15-27

Ioan 18:15-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma Simon Pedr ac un arall o’r disgyblion yn mynd ar ôl Iesu. Roedd yr archoffeiriad yn nabod y disgybl arall hwnnw yn dda, felly cafodd fynd i mewn gyda Iesu i iard tŷ’r archoffeiriad. Ond roedd rhaid i Pedr aros wrth y drws y tu allan. Yna dyma’r disgybl oedd yr archoffeiriad yn ei nabod, yn mynd yn ôl ac yn perswadio’r ferch oedd yn cadw’r drws i adael Pedr i mewn. Ond meddai hi wrth Pedr, “Onid wyt ti’n un o ddisgyblion y dyn yna?” Ond dyma Pedr yn ateb, “Nac ydw.” Roedd hi’n oer, ac roedd y gweithwyr a’r swyddogion diogelwch yn sefyll o gwmpas tân golosg roedden nhw wedi’i gynnau i gadw’n gynnes. Felly dyma Pedr hefyd yn mynd i sefyll gyda nhw i gadw’n gynnes. Yn y cyfamser, roedd Iesu’n cael ei groesholi gan yr archoffeiriad am ei ddisgyblion ac am beth roedd yn ei ddysgu. “Dw i wedi bod yn siarad yn gwbl agored,” meddai Iesu. “Rôn i bob amser yn dysgu yn y synagogau neu yn y deml, lle roedd y bobl yn cwrdd. Doedd gen i ddim cyfrinachau, felly pam wyt ti’n fy holi i? Hola’r bobl oedd yn gwrando arna i. Maen nhw’n gwybod beth ddwedais i.” Pan atebodd Iesu felly dyma un o’r swyddogion oedd yno yn ei daro ar draws ei wyneb. “Ai dyna sut wyt ti’n ateb yr archoffeiriad!” meddai. “Os dwedais i rywbeth o’i le,” meddai Iesu, “dywed wrth bawb beth. Ond os oedd beth ddwedais i yn iawn, pam wnest ti fy nharo i?” Yna, yn dal wedi’i rwymo, anfonodd Annas e at Caiaffas yr archoffeiriad. Tra oedd Simon Pedr yn sefyll wrth y tân yn cadw’n gynnes, gofynnwyd iddo eto, “Wyt ti ddim yn un o’i ddisgyblion e?” Ond gwadu wnaeth Pedr, “Nac ydw,” meddai. Wedyn dyma un o weithwyr yr archoffeiriad yn ei herio (perthynas i’r dyn oedd Pedr wedi torri ei glust i ffwrdd), “Wnes i ddim dy weld di gydag e yn yr ardd?” Ond gwadu wnaeth Pedr eto, a’r foment honno dyma’r ceiliog yn canu.

Ioan 18:15-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd Simon Pedr yn canlyn Iesu, a disgybl arall hefyd. Yr oedd y disgybl hwn yn adnabyddus i'r archoffeiriad, ac fe aeth i mewn gyda Iesu i gyntedd yr archoffeiriad, ond safodd Pedr wrth y drws y tu allan. Felly aeth y disgybl arall, yr un oedd yn adnabyddus i'r archoffeiriad, allan a siarad â'r forwyn oedd yn cadw'r drws, a daeth â Pedr i mewn. A dyma'r forwyn oedd yn cadw'r drws yn dweud wrth Pedr, “Tybed a wyt tithau'n un o ddisgyblion y dyn yma?” “Nac ydwyf,” atebodd yntau. A chan ei bod yn oer, yr oedd y gweision a'r swyddogion wedi gwneud tân golosg, ac yr oeddent yn sefyll yn ymdwymo wrtho. Ac yr oedd Pedr yntau yn sefyll gyda hwy yn ymdwymo. Yna holodd yr archoffeiriad Iesu am ei ddisgyblion ac am ei ddysgeidiaeth. Atebodd Iesu ef: “Yr wyf fi wedi siarad yn agored wrth y byd. Yr oeddwn i bob amser yn dysgu mewn synagog ac yn y deml, lle y bydd yr Iddewon i gyd yn ymgynnull; nid wyf wedi siarad dim yn y dirgel. Pam yr wyt yn fy holi i? Hola'r rhai sydd wedi clywed yr hyn a leferais wrthynt. Dyma'r sawl sy'n gwybod beth a ddywedais i.” Pan ddywedodd hyn, rhoddodd un o'r swyddogion oedd yn sefyll yn ei ymyl gernod i Iesu, gan ddweud, “Ai felly yr wyt yn ateb yr archoffeiriad?” Atebodd Iesu, “Os dywedais rywbeth o'i le, rho dystiolaeth ynglŷn â hynny. Ond os oeddwn yn fy lle, pam yr wyt yn fy nharo?” Yna anfonodd Annas ef, wedi ei rwymo, at Caiaffas, yr archoffeiriad. Yr oedd Simon Pedr yn sefyll yno yn ymdwymo. Meddent wrtho felly, “Tybed a wyt tithau'n un o'i ddisgyblion?” Gwadodd yntau: “Nac ydwyf,” meddai. Dyma un o weision yr archoffeiriad, perthynas i'r un y torrodd Pedr ei glust i ffwrdd, yn gofyn iddo, “Oni welais i di yn yr ardd gydag ef?” Yna gwadodd Pedr eto. Ac ar hynny, canodd y ceiliog.

Ioan 18:15-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu, Simon Pedr, a disgybl arall: a’r disgybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, ac efe a aeth i mewn gyda’r Iesu i lys yr archoffeiriad. A Phedr a safodd wrth y drws allan. Yna y disgybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddug Pedr i mewn. Yna y dywedodd y llances oedd ddrysores wrth Pedr, Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Dywedodd yntau, Nac wyf. A’r gweision a’r swyddogion, gwedi gwneuthur tân glo, oherwydd ei bod hi’n oer, oeddynt yn sefyll, ac yn ymdwymo: ac yr oedd Pedr gyda hwynt yn sefyll, ac yn ymdwymo. A’r archoffeiriad a ofynnodd i’r Iesu am ei ddisgyblion, ac am ei athrawiaeth. Yr Iesu a atebodd iddo, Myfi a leferais yn eglur wrth y byd: yr oeddwn bob amser yn athrawiaethu yn y synagog, ac yn y deml, lle mae’r Iddewon yn ymgynnull bob amser; ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim. Paham yr wyt ti yn gofyn i mi? gofyn i’r rhai a’m clywsant, beth a ddywedais wrthynt: wele, y rhai hynny a wyddant pa bethau a ddywedais i. Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, un o’r swyddogion a’r oedd yn sefyll gerllaw, a roddes gernod i’r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti’n ateb yr archoffeiriad? Yr Iesu a atebodd iddo, Os drwg y dywedais, tystiolaetha o’r drwg; ac os da, paham yr wyt yn fy nharo i? Ac Annas a’i hanfonasai ef yn rhwym at Caiaffas yr archoffeiriad. A Simon Pedr oedd yn sefyll, ac yn ymdwymo. Hwythau a ddywedasant wrtho, Onid wyt tithau hefyd o’i ddisgyblion ef? Yntau a wadodd, ac a ddywedodd, Nac wyf. Dywedodd un o weision yr archoffeiriad, (câr i’r hwn y torasai Pedr ei glust,) Oni welais i di gydag ef yn yr ardd? Yna Pedr a wadodd drachefn; ac yn y man y canodd y ceiliog.