Ioan 12:37-43
Ioan 12:37-43 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Er bod Iesu wedi gwneud cymaint o arwyddion gwyrthiol o’u blaenau nhw, roedden nhw’n dal i wrthod credu ynddo. Dyma’n union ddwedodd y proffwyd Eseia fyddai’n digwydd: “Arglwydd, oes rhywun wedi credu ein neges? Oes rhywun wedi gweld mor rymus ydy’r Arglwydd?” Ac mae Eseia’n dweud mewn man arall pam oedd hi’n amhosib iddyn nhw gredu: “Mae’r Arglwydd wedi dallu eu llygaid a chaledu eu calonnau; Fel arall, bydden nhw’n gweld a’u llygaid, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i’n eu hiacháu nhw.” (Dwedodd Eseia y pethau yma am ei fod wedi gweld ysblander dwyfol Iesu. Am Iesu roedd e’n siarad.) Ac eto roedd nifer o arweinwyr crefyddol, hyd yn oed, wedi dod i gredu ynddo. Ond doedden nhw ddim yn barod i gyfaddef hynny’n agored am eu bod yn ofni’r Phariseaid, a ddim am gael eu diarddel o’r synagog. Roedd yn well ganddyn nhw gael eu canmol gan bobl na chan Dduw.
Ioan 12:37-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Er iddo wneud cynifer o arwyddion yng ngŵydd y bobl, nid oeddent yn credu ynddo. Cyflawnwyd felly y gair a ddywedodd y proffwyd Eseia: “Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym? I bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?” O achos hyn ni allent gredu, oherwydd dywedodd Eseia beth arall: “Y mae ef wedi dallu eu llygaid, ac wedi tywyllu eu deall, rhag iddynt weld â'u llygaid, a deall â'u meddwl, a throi'n ôl, i mi eu hiacháu.” Dywedodd Eseia hyn am iddo weld ei ogoniant; amdano ef yr oedd yn llefaru. Eto i gyd fe gredodd llawer hyd yn oed o'r llywodraethwyr ynddo ef; ond o achos y Phariseaid ni fynnent ei arddel, rhag iddynt gael eu torri allan o'r synagog. Dewisach oedd ganddynt glod gan bobl na chlod gan Dduw.
Ioan 12:37-43 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac er gwneuthur ohono ef gymaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt, ni chredasant ynddo: Fel y cyflawnid ymadrodd Eseias y proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd? Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Eseias drachefn, Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â’u llygaid, a deall â’u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi eu hiacháu hwynt. Y pethau hyn a ddywedodd Eseias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd amdano ef. Er hynny llawer o’r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo; ond oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o’r synagog: Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw.