Ioan 12:1-11
Ioan 12:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Chwe diwrnod cyn y Pasg, daeth Iesu i Fethania, lle'r oedd Lasarus yn byw, y dyn yr oedd wedi ei godi oddi wrth y meirw. Yno gwnaethpwyd iddo swper; yr oedd Martha yn gweini, a Lasarus yn un o'r rhai oedd gydag ef wrth y bwrdd. A chymerodd Mair fesur o ennaint costfawr, nard pur, ac eneiniodd draed Iesu a'u sychu â'i gwallt. A llanwyd y tŷ gan bersawr yr ennaint. A dyma Jwdas Iscariot, un o'i ddisgyblion, yr un oedd yn mynd i'w fradychu, yn dweud, “Pam na werthwyd yr ennaint hwn am dri chant o ddarnau arian, a'i roi i'r tlodion?” Ond fe ddywedodd hyn, nid am fod gofal ganddo am y tlodion, ond am mai lleidr ydoedd, yn cymryd o'r cyfraniadau yn y god arian oedd yn ei ofal. “Gad lonydd iddi,” meddai Iesu, “er mwyn iddi gadw'r ddefod ar gyfer dydd fy nghladdedigaeth. Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, ond nid wyf fi gyda chwi bob amser.” Daeth tyrfa fawr o'r Iddewon i wybod ei fod yno, a daethant ato, nid o achos Iesu yn unig, ond er mwyn gweld Lasarus hefyd, y dyn yr oedd ef wedi ei godi oddi wrth y meirw. Ond gwnaeth y prif offeiriaid gynllwyn i ladd Lasarus hefyd, gan fod llawer o'r Iddewon, o'i achos ef, yn gwrthgilio ac yn credu yn Iesu.
Ioan 12:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bum diwrnod cyn Gŵyl y Pasg cyrhaeddodd Iesu Bethania, lle roedd Lasarus yn byw (y dyn wnaeth Iesu ddod ag e’n ôl yn fyw). Roedd swper wedi’i drefnu i anrhydeddu Iesu. Roedd Martha yn gweini, a Lasarus yn un o’r rhai oedd yn eistedd gydag Iesu wrth y bwrdd. Daeth Mair i mewn gyda jar hanner litr o nard pur, oedd yn bersawr drud iawn. Tywalltodd y persawr ar draed Iesu ac wedyn sychu ei draed â’i gwallt. Roedd arogl y persawr i’w glywed drwy’r tŷ i gyd. Ond yna dyma Jwdas Iscariot (y disgybl oedd yn mynd i fradychu Iesu yn nes ymlaen) yn protestio, “Roedd y persawr yna’n werth ffortiwn! Dylid bod wedi’i werthu, a rhoi’r arian i bobl dlawd!” (Doedd e ddim wir yn poeni am y tlodion. Beth oedd tu ôl i’w eiriau oedd y ffaith ei fod yn lleidr. Roedd Iesu a’i ddisgyblion yn rhannu un pwrs, a Jwdas oedd yn gyfrifol amdano, ond byddai’n arfer helpu ei hun i’r arian.) “Gad lonydd iddi,” meddai Iesu. “Mae hi wedi cadw hwn ar gyfer y diwrnod pan fydda i’n cael fy nghladdu. Bydd pobl dlawd o gwmpas i chi eu helpu nhw bob amser, ond fydda i ddim yma bob amser.” Roedd tyrfa fawr o bobl Jwdea wedi darganfod fod Iesu yn Bethania. Dyma nhw’n mynd yno, ddim jest i weld Iesu, ond hefyd i weld Lasarus yr un ddaeth Iesu ag e’n ôl yn fyw. Ond roedd y prif offeiriaid wedi penderfynu fod rhaid cael gwared â Lasarus hefyd, am fod llawer o bobl Jwdea wedi’u gadael nhw a dod i gredu yn Iesu o’i achos e.
Ioan 12:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna yr Iesu, chwe diwrnod cyn y pasg, a ddaeth i Fethania, lle yr oedd Lasarus, yr hwn a fuasai farw, yr hwn a godasai efe o feirw. Ac yno y gwnaethant iddo swper; a Martha oedd yn gwasanaethu: a Lasarus oedd un o’r rhai a eisteddent gydag ef. Yna y cymerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a eneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt: a’r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint. Am hynny y dywedodd un o’i ddisgyblion ef, Jwdas Iscariot, mab Simon, yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chan ceiniog, a’i roddi i’r tlodion? Eithr hyn a ddywedodd efe, nid oherwydd bod arno ofal dros y tlodion; ond am ei fod yn lleidr, a bod ganddo’r pwrs, a’i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo. A’r Iesu a ddywedodd, Gad iddi: erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn. Canys y mae gennych y tlodion gyda chwi bob amser; eithr myfi nid oes gennych bob amser. Gwybu gan hynny dyrfa fawr o’r Iddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lasarus hefyd, yr hwn a godasai efe o feirw. Eithr yr archoffeiriaid a ymgyngorasant fel y lladdent Lasarus hefyd: Oblegid llawer o’r Iddewon a aethant ymaith o’i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Iesu.