Ioan 10:22-32
Ioan 10:22-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna daeth amser dathlu gŵyl y Cysegru yn Jerwsalem. Yr oedd yn aeaf, ac yr oedd Iesu'n cerdded yn y deml, yng Nghloestr Solomon. Daeth yr Iddewon o'i amgylch a gofyn iddo, “Am ba hyd yr wyt ti am ein cadw ni mewn ansicrwydd? Os tydi yw'r Meseia, dywed hynny wrthym yn blaen.” Atebodd Iesu hwy, “Yr wyf wedi dweud wrthych, ond nid ydych yn credu. Y mae'r gweithredoedd hyn yr wyf fi yn eu gwneud yn enw fy Nhad yn tystiolaethu amdanaf fi. Ond nid ydych chwi'n credu, am nad ydych yn perthyn i'm defaid i. Y mae fy nefaid i yn gwrando ar fy llais i, ac yr wyf fi'n eu hadnabod, a hwythau'n fy nghanlyn i. Yr wyf fi'n rhoi bywyd tragwyddol iddynt; nid ânt byth i ddistryw, ac ni chaiff neb eu cipio hwy allan o'm llaw i. Hwy yw rhodd fy Nhad i mi, rhodd sy'n fwy na dim oll, ac ni all neb eu cipio allan o law fy Nhad. Myfi a'r Tad, un ydym.” Unwaith eto casglodd yr Iddewon gerrig i'w labyddio ef. Dywedodd Iesu wrthynt, “Yr wyf wedi dangos i chwi lawer o weithredoedd da trwy rym y Tad. O achos p'run ohonynt yr ydych am fy llabyddio?”
Ioan 10:22-32 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd y gaeaf wedi dod, ac roedd hi’n amser dathlu Gŵyl y Cysegru yn Jerwsalem. Roedd Iesu yno yng nghwrt y deml, yn cerdded o gwmpas Cyntedd Colofnog Solomon. Dyma’r arweinwyr Iddewig yn casglu o’i gwmpas, a gofyn iddo, “Am faint wyt ti’n mynd i’n cadw ni’n disgwyl? Dwed wrthon ni’n blaen os mai ti ydy’r Meseia.” “Dw i wedi dweud,” meddai Iesu, “ond dych chi’n gwrthod credu. Mae’r gwyrthiau dw i yn eu gwneud ar ran fy Nhad yn dweud y cwbl. Ond dych chi ddim yn credu am eich bod chi ddim yn ddefaid i mi. Mae fy nefaid i yn fy nilyn am eu bod yn nabod fy llais i, a dw i’n eu nabod nhw. Dw i’n rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw, a fyddan nhw byth yn mynd i ddistryw. Does neb yn gallu eu cipio nhw oddi arna i. Fy Nhad sydd wedi’u rhoi nhw i mi, ac mae e’n fwy na phawb a phopeth. Does neb yn gallu eu cipio nhw o afael fy Nhad. Dw i a’r Tad yn un.” Unwaith eto dyma’r arweinwyr Iddewig yn codi cerrig i’w labyddio’n farw, ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Dych chi wedi fy ngweld i’n gwneud lot fawr o bethau da – gwyrthiau’r Tad. Am ba un o’r rhain dych chi’n fy llabyddio i?”
Ioan 10:22-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr oedd y gysegr-ŵyl yn Jerwsalem, a’r gaeaf oedd hi. Ac yr oedd yr Iesu yn rhodio yn y deml, ym mhorth Solomon. Am hynny y daeth yr Iddewon yn ei gylch ef, ac a ddywedasant wrtho, Pa hyd yr wyt yn peri i ni amau? os tydi yw’r Crist, dywed i ni yn eglur. Yr Iesu a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad, y mae y rhai hynny yn tystiolaethu amdanaf fi. Ond chwi nid ydych yn credu: canys nid ydych chwi o’m defaid i, fel y dywedais i chwi. Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i; a mi a’u hadwaen hwynt, a hwy a’m canlynant i: A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i. Fy Nhad i, yr hwn a’u rhoddes i mi, sydd fwy na phawb: ac nis gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad i. Myfi a’r Tad un ydym. Am hynny y cododd yr Iddewon gerrig drachefn i’w labyddio ef. Yr Iesu a atebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad: am ba un o’r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i?