Roedd y gaeaf wedi dod, ac roedd hi’n amser dathlu Gŵyl y Cysegru yn Jerwsalem. Roedd Iesu yno yng nghwrt y deml, yn cerdded o gwmpas Cyntedd Colofnog Solomon. Dyma’r arweinwyr Iddewig yn casglu o’i gwmpas, a gofyn iddo, “Am faint wyt ti’n mynd i’n cadw ni’n disgwyl? Dwed wrthon ni’n blaen os mai ti ydy’r Meseia.” “Dw i wedi dweud,” meddai Iesu, “ond dych chi’n gwrthod credu. Mae’r gwyrthiau dw i yn eu gwneud ar ran fy Nhad yn dweud y cwbl. Ond dych chi ddim yn credu am eich bod chi ddim yn ddefaid i mi. Mae fy nefaid i yn fy nilyn am eu bod yn nabod fy llais i, a dw i’n eu nabod nhw. Dw i’n rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw, a fyddan nhw byth yn mynd i ddistryw. Does neb yn gallu eu cipio nhw oddi arna i. Fy Nhad sydd wedi’u rhoi nhw i mi, ac mae e’n fwy na phawb a phopeth. Does neb yn gallu eu cipio nhw o afael fy Nhad. Dw i a’r Tad yn un.” Unwaith eto dyma’r arweinwyr Iddewig yn codi cerrig i’w labyddio’n farw, ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Dych chi wedi fy ngweld i’n gwneud lot fawr o bethau da – gwyrthiau’r Tad. Am ba un o’r rhain dych chi’n fy llabyddio i?”
Darllen Ioan 10
Gwranda ar Ioan 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 10:22-32
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos