Jeremeia 8:18-22
Jeremeia 8:18-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dw i wedi fy llethu gan dristwch. Dw i’n teimlo’n sâl. Gwrandwch ar fy mhobl druan yn gweiddi ar hyd a lled y wlad: ‘Ydy’r ARGLWYDD wedi gadael Seion? Ydy ei Brenin hi ddim yno bellach?’” ARGLWYDD “Pam maen nhw wedi fy nigio i gyda’u heilunod a’u delwau diwerth? ‘Mae’r cynhaeaf heibio, mae’r haf wedi dod i ben, a dŷn ni’n dal ddim wedi’n hachub,’ medden nhw.” Dw i’n diodde wrth weld fy mhobl annwyl i’n diodde. Dw i’n galaru; dw i’n anobeithio. Oes yna ddim eli yn Gilead? Oes dim meddyg yno? Felly pam nad ydy briw fy mhobl wedi gwella?
Jeremeia 8:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae fy ngofid y tu hwnt i wellhad, a'm calon wedi clafychu. Clyw! Cri merch fy mhobl o wlad bellennig: “Onid yw'r ARGLWYDD yn Seion? Onid yw ei brenin ynddi?” “Pam y maent yn fy nigio â'u delwau, â'u heilunod estron?” “Aeth y cynhaeaf heibio, darfu'r haf, a ninnau heb ein hachub.” Oherwydd briw merch fy mhobl yr wyf finnau wedi fy mriwo, wedi galaru, ac wedi fy nal gan syndod. Onid oes balm yn Gilead? Onid oes yno ffisigwr? Pam, ynteu, nad yw iechyd merch fy mhobl yn gwella?
Jeremeia 8:18-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan ymgysurwn yn erbyn gofid, fy nghalon sydd yn gofidio ynof. Wele lais gwaedd merch fy mhobl, oblegid y rhai o wlad bell: Onid ydyw yr ARGLWYDD yn Seion? onid yw ei brenin hi ynddi? paham y’m digiasant â’u delwau cerfiedig, ac ag oferedd dieithr? Y cynhaeaf a aeth heibio, darfu yr haf, ac nid ydym ni gadwedig. Am friw merch fy mhobl y’m briwyd i: galerais; daliodd synder fi. Onid oes driagl yn Gilead? onid oes yno ffisigwr? paham na wellha iechyd merch fy mhobl?